Euog o beryglu awyrennau'r Awyrlu

  • Cyhoeddwyd
John Arthur Jones
Disgrifiad o’r llun,

John Arthur Jones

Mae dyn o Ynys Môn wedi ei gael yn euog o beryglu awyrennau'r Awyrlu ar yr ynys drwy anelu goleuadau at beilotiaid oedd yn eu hedfan.

Roedd John Arthur Jones o Fodffordd wedi gwadu 13 o gyhuddiadau yn ei erbyn o beryglu awyrennau, ond fe'i cafwyd yn euog o bob cyhuddiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau.

Roedd y troseddau wedi digwydd rhwng Tachwedd 2013 a mis Medi 2014.

Dywedodd yr erlyniad fod gan Jones obsesiwn gyda hediadau'r Awyrlu o faes awyr RAF Mona, gan anelu golau llachar at awyrennau Hawk dro ar ôl tro.

Roedd y golau wedi ei anelu o dir yr oedd yn berchen arno ym Mharc Cefni ym Modffordd, ac roedd yn peryglu peilotiaid oedd ar ymarferiadau nos meddai John Philpotts ar ran yr erlyniad.

'Camgymeriad'

Gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn wnaeth John Arthur Jones, gan ddweud bod swyddogion cudd yr heddlu wedi gwneud camgymeriad pan roeddynt yn dweud eu bod wedi ei weld yn anelu'r golau tuag at yr awyrennau.

Dywedodd Mr Jones mai ei unig bryder oedd effaith yr hediadau ar blant oedd mewn meithrinfa gyfagos, a doedd gan hyn ddim cysylltiad gyda'r ffaith ei fod yn bwriadu gwerthu nifer o dai haf ar safle Parc Cefni a bod yr hediadau'n effeithio ar werthiant y tai hyn.

Dywedodd Lisa Judge ar ran yr amddiffyniad nad oedd Mr Jones yn anelu golau at awyrennau ond yn eu ffilmio ar gamera er mwyn cadw cofnod o'r hyn oedd yn digwydd.

Wedi ystyried am dros bedair awr, daeth y rheithgor i'r casgliad fod John Arthur Jones yn euog o'r 13 cyhuddiad yn ei erbyn.

Cafodd yr achos ei ohirio ar gais yr amddiffyniad er mwyn paratoi adroddiadau, ac fe fydd Mr Jones yn cael ei ddedfrydu ar 1 Awst yn Llys y Goron Caernarfon.