Oriel atgofion: Dathlu 75 mlynedd o wersyll Glan-llyn

Plant a phobl ifanc yn mwynhau Glan-llyn yn yr 1970au - rhai o'r miliwn o blant sydd wedi bod yn y gwersyll ers ei sefydlu
- Cyhoeddwyd
Mae'n lleoliad sy'n dod ag atgofion i blant ar hyd a lled Cymry - Glan-llyn.
Ac mae'r gwersyll yr Urdd, sydd ar lan Llyn Tegid, ger Llanuwchllyn, yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 75 oed.
O deithio mewn canŵ i ddringo ac o ganu i ddawnsio, mae dros filiwn o blant a phobl ifanc wedi mwynhau cymdeithasu a gwneud gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg ers iddi agor yn 1950.
Ac wrth i'r ganolfan baratoi i ddathlu mewn gŵyl arbennig ar ddydd Sadwrn, 27 Medi, dyma gasgliad o luniau sy'n dangos yr hwyl dros gyfnod o dri-chwarter canrif.
Pen-blwydd Hapus Glan-llyn!
Fideo: Glan-llyn drwy'r degawdau

Mae amser bwyd ac amser panad wedi bod yn rhan bwysig o'r gwersyll ers degawdau. Mae'r llun yma wedi ei dynnu rhwng 1959-68

Roedd y gwersyllwyr yn arfer cyrraedd ar drên i orsaf rheilffordd Llanuwchllyn cyn cael eu cludo ar draws y llyn i'r gwersyll ar gwch o'r enw Brenin Arthur

Porthladd Glan-llyn

Mae'r ganolfan wedi ei lleoli mewn ardal hardd o Wynedd, ar ochr Llyn Tegid

Y Plas yn yr 1950au. Rhentu'r adeilad wnaeth yr Urdd am nifer o flynyddoedd ar ôl i'r gwersyll gael ei agor gan sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1950

Fe wnaeth yr Urdd brynu adeilad Glan-llyn yn swyddogol yn 1964

Mae cerddoriaeth hefyd yn rhan bwysig o hanes Glan-llyn - a dyma lle wnaeth Dafydd Iwan, sydd gyda'i gitâr yng nghanol y llun yma, berfformio gyda'r offeryn am y tro cyntaf

Un arall oedd yn canu yng Nglan-llyn - Edward Morus Jones. Fe fydd cerddoriaeth fyw gan y bandiau Eden a Tant yn rhan o'r dathliadau yng Ngŵyl Glan-llyn ar 27 Medi

Mae trafnidiaeth wedi newid ers yr 1960au - ond mae caiacio yn digwydd hyd heddiw

Un o'r degau o filoedd sydd wedi bod ar y llyn mewn caiac

Cwch y Brenin Arthur

Mae fersiwn mwy modern yn y gwersyll heddiw, ond mae'r wal ddringo wedi bod yn rhan o'r gweithgareddau ers degawdau fel sy'n amlwg o'r llun yma, gafodd ei dynnu rhwng 1959-68

Mwynhau'r gwanwyn yng Nglan-llyn yn yr 1980au
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst