'Creu steil unigryw a dathlu ffasiwn ail-law' ym mis Medi

Jess RenaultFfynhonnell y llun, Jess Renault
  • Cyhoeddwyd

"Mewn 10 mlynedd y norm fydd prynu dillad ail-law."

Mae Jess Renault o Gaerdydd yn angerddol am ffasiwn ail-law ac yn taeru mai dyma'r ffordd ymlaen ar gyfer y byd ffasiwn a'r blaned.

Gan ei bod hi'n fis gwisgo dillad ail-law (Second Hand September), bu Cymru Fyw'n siarad gyda Jess, perchennog siop ddillad ail-law Déjà Vu ym Mhontcanna, am ei chariad am ddillad ail-law a vintage.

Oxfam sy'n trefnu'r ymgyrch er mwyn annog pobl i brynu dillad ail-law yn hytrach na rhai newydd am 30 diwrnod, gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o effaith ffasiwn ar yr amgylchedd.

Mae Jess yn cefnogi'r ymgyrch gan ddweud: "Dyma'r ffordd ni'n mynd – mae cymaint o bobl wedi cychwyn prynu dillad ail-law fel yr arfer nawr ac mae'n rhaid mai dyma fydd y ffordd ymlaen ar gyfer ffasiwn.

"Mae cymaint o ddylunwyr dillad yn defnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu a ffasiwn cynaliadwy erbyn hyn."

Jess RenaultFfynhonnell y llun, Jess Renault

Cychwynnodd ddiddordeb Jess mewn ffasiwn vintage pan oedd hi yn ei harddegau ac mi arweiniodd ei hangerdd ati'n gadael ei swydd fel athrawes i agor y siop dillad ail-law.

Meddai: "O'n i'n dwlu ar vintage achos mod i'n gallu creu steil unigryw fy hun gyda fe.

"A dwi wedi dod yn ôl ato wrth fynd yn hŷn am resymau amgylcheddol – ac hefyd ariannol. Mae'n un o'r pethau yna dwi'n caru.

"Dwi'n caru pa mor unigol i ti yw'r steil a phan ti'n gwisgo rhywbeth dyw pobl eraill ddim yn mynd i fod yn gwisgo yr un peth.

"Mae ffasiwn newydd yn debyg iawn ar draws brandiau tra gyda ffasiwn ail-law ti'n edrych yn wahanol ac mae pobl yn sylwi ar hynny. Mae'n unigryw i ti.

"Ac mae'r gwahaniaeth mewn pris yn beth mawr. Ti'n cael brandiau fyddet ti ddim yn gallu fforddio fel arfer – a ti'n cael nhw gyda arbediad o o leiaf 50%.

"Ond yn bennaf wrth gwrs mae'r rhesymau amgylcheddol – mae'n ffordd mwy cynaliadwy o fyw o ran ail-ddefnyddio dillad a gwerthu nhw mlaen."

Jess RenaultFfynhonnell y llun, Jess Renault

Ffasiwn cyflym ar fai

Ond nid yw Jess yn byw mewn dillad ail-law yn unig – ei chyngor yw i gymysgu dillad ail-law gyda eitemau mwy newydd: "Gyda denim mae'n anodd i ffeindio y steil diweddaraf gyda jîns ail-law.

"Y pethau dwi dal yn prynu'n newydd yw staples; dillad wedi eu gweu o safon da neu chot safonol dwi'n mynd i gadw yn fy wardrob am flynyddoedd."

Ffasiwn cyflym yw un o'r prif heriau sy'n wynebu'r amgylchedd, meddai Jess: "Mae'n broblem fawr ac mae'n bryder pa mor wael yw'r sefyllfa.

"Mae fy nghenhedlaeth i wedi cyfrannu at y broblem drwy brynu gwisg am un noson allan a pheidio gwisgo'r dillad eto. A dyna o ble mae next day delivery wedi dod a dillad yn cael eu cynhyrchu yn gyflym ac yn rhad.

"Mae'r ffaith ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma yn ofnadwy a dwi'n falch iawn fod cenedlaethau iau yn gweld nad yw e'n iawn.

"Dyw e ddim yn ffordd gynaliadwy o wisgo ac mae safon y dillad mor wael bod nhw'n cwympo'n ddarnau ar ôl un golch.

"A dyw e ddim yn foesol – mae prynu dilledyn mor rhad yn golygu fod pobl ddim yn cael eu talu beth ddylen nhw i greu y dillad."

Jess RenaultFfynhonnell y llun, Jess Renault

Mae'r gwastraff hefyd yn broblem fawr gyda 40% o'r dillad sy'n cael ei gynhyrchu ar draws y byd bob blwyddyn ddim yn cael ei werthu.

Meddai Jess: "Mae'n ddychrynllyd i feddwl am y gwastraff – ym Mhrydain ni'n cael gwared o gymaint o ddillad.

"Os nad yw siopau elusen yn gallu gwerthu'r dillad maen nhw'n gorfod cael gwared ohonyn nhw. A dyw pobl ddim yn gweld i ble mae'r gwastraff yma yn mynd.

"Os fydden ni'n gallu gweld y gwastraff mewn pentyrrau ar ochr y ffordd mewn gwledydd eraill byddai pobl yn meddwl yn wahanol am gael gwared ar ddillad."

Pentwr o hen ddillad yn ChileFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pentwr o hen ddillad yn Chile

Felly mae Jess yn ffan o fis Medi gwisgo dillad ail-law ac yn dweud ei bod wedi siarad gyda nifer o fenywod sy' wedi cychwyn prynu dillad ail-law o ganlyniad i'r ymgyrch: "Mae'n ffordd dda o ddathlu ffasiwn ail-law.

"Dwi'n fwy gofalus o beth dwi'n gwisgo a phrynu ym mis Medi. Mae'r haf wedi dod i ben ac mae'n dymor da i edrych ar dy wardrob am yr hydref ac ystyried beth sy'n bosib ei ailddefnyddio o llynedd.

"Mae'n amser da i feddwl, mae gen i ddillad hyfryd ac ydw i wir angen unrhyw beth newydd?

"Mae am fod yn fwy ymwybodol ac ystyrlon o dy arferion siopa.

"Ni gyd yn cwympo mewn i'r trap o feddwl ein bod angen dillad newydd ar gyfer ein wardrob pan mae'r tymor yn newid.

"Does dim angen – cymrwch gam yn ôl ac edrych ar beth sy' gyda chi'n barod."

Cyngor Jess am brynu dillad ail-law

  • Pan chi'n chwilio am ddillad ewch am bethau chi'n caru sy'n adlewyrchu'ch steil bersonol chi. Dewiswch ddillad sy' ddim yn dilyn y ffasiwn yn ormodol.

  • Os chi'n prynu dillad syml a phlaen mi fyddan nhw'n para' ac yn cyd-fynd yn dda gyda mwy o'ch dillad presennol.

  • Defnyddiwch ategolion fel gemwaith ac ati i steilio eich gwisg ac mi fyddwch chi lot llai tebygol o ddiflasu ar eich dillad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig