Nathan Gill yn cyfaddef cyhuddiadau llwgrwobrwyo

Nathan Gill yn cyrraedd y gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd GwenerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Gill yn cyrraedd y gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi pledio'n euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo (bribery) tra'n aelod etholedig o Senedd Ewrop.

Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Nathan Gill, 52 o Langefni ar Ynys Môn, yn ymwneud â gwneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop.

Bu'n aelod o Senedd Ewrop dros UKIP, ac yn ddiweddarach Plaid Brexit, rhwng 2014 a 2020.

Ef oedd arweinydd UKIP yng Nghymru rhwng 2014 a 2016, ac roedd yn arweinydd Reform UK yng Nghymru rhwng Mawrth a Mai 2021.

Fe gyfaddefodd wyth o'r cyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad yn llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener, ond plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o gynllwynio i lwgrwobrwyo.

Dywedodd yr erlynydd Mark Heywood fod yr wyth ple euog yn "foddhaol" am fod y cyhuddiadau o lwgrwobrwyo yn adlewyrchu'r gweithgareddau troseddol.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd yn cael ei ddedfrydu fis Tachwedd.

Dywedodd ei fargyfreithiwr ei fod yn disgwyl y byddai Gill yn cael ei garcharu.

Clywodd y llys bod y troseddau wedi digwydd rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.

Roedd y cyhuddiadau yn datgan fod Gill, fel aelod etholedig o Senedd Ewrop dros Gymru, wedi cytuno i dderbyn arian, a bod hynny'n "amhriodol".

Honnwyd ei fod wedi gwneud datganiadau yn Senedd Ewrop oedd yn "gefnogol o naratif penodol" fyddai "wedi bod o fudd i Rwsia yn ymwneud â digwyddiadau yn Wcráin".

Fe wnaeth y datganiadau yma hefyd mewn darnau barn i ddarlledwyr newyddion.

Clywodd y llys ei fod wedi cael cais gan Oleg Voloshyn o Wcráin ar o leiaf wyth achlysur i wneud datganiadau penodol, ac y byddai'n cael ei dalu am wneud hynny.

Mae Mr Voloshyn yn gyn-wleidydd o blaid Opposition Platform for Life, sy'n gefnogol o Rwsia.

Gill wnaeth arwain ymgyrch Reform UK ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021, ond nid yw'n aelod o'r blaid bellach.