Dyn, 57, yn y llys wedi gwrthdrawiad difrifol ym Mangor

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487, Ffordd Treborth ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 57 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â gwrthdrawiad difrifol ym Mangor.
Fe gafodd merch 17 oed anafiadau difrifol o ganlyniad i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A487, Ffordd Treborth tua 20:30 nos Fawrth.
Bu'n rhaid ei chludo mewn hofrennydd o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Stoke am ofal, a bu'n rhaid i sawl person arall gael triniaeth feddygol hefyd.
Mae Stephen Mills, sydd heb gyfeiriad parhaol, yn wynebu tri chyhuddiad o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener, dywedodd Grace Carson ar ran yr erlyniad fod anafiadau'r gyrrwr 17 oed "yn rhai all, o bosib, beryglu bywyd".
Ychwanegodd fod y mater yn un "hynod ddifrifol" a'i fod "yn wrthdrawiad trychinebus".
Clywodd y llys fod y tair merch a gafodd eu hanafu wedi bod yn dathlu pen-blwydd ar y noson dan sylw.
Gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn gwnaeth Mr Mills, ac er i'r amddiffyniad wneud cais i'w ryddhau ar fechnïaeth, cafodd y cais hwnnw ei wrthod.
Fe fydd Mr Mills yn cael ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad yn Llys y Goron Caernarfon fis nesaf.
Tri pherson ifanc yn dal yn yr ysbyty
Mae Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth neu luniau all helpu'r ymchwiliad i'r achos.
Mae'r llu, medd y Ditectif Arolygydd Tim Evans, "yn ddiolchgar iawn" i bawb sydd wedi cysylltu â nhw eisoes, ac yn apelio am unrhyw luniau CCTV neu dashcam yn dangos Volkswagen Golf gwyn yn teithio yn ardaloedd Biwmares, Llanfairpwll, Porthaethwy a Bangor Uchaf rhwng 19:30 a 20:30 nos Fawrth.
Ychwanegodd ei fod yn meddwl yn bennaf "am y tri pherson ifanc sy'n dal yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad yma, a hoffwn ddiolch i'r bobl hynny a roddodd gymorth i'r cleifion".
Mae hefyd yn "canmol gwaith yr holl wasanaethau brys mewn ymateb i'r digwyddiad yma, y tîm ymchwilio sydd wedi gweithio'n ddiflino, ac ein swyddogion arbenigol sy'n parhau i roi cymorth" i deuluoedd y dioddefwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi