Carchar am oes i ddyn am lofruddio menyw, 47, yn Abertawe

Bydd yn rhaid i Matthew Battenbough dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo cyn cael ceisio am barôl
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio menyw 47 oed.
Cafodd corff Leanne Williams ei ddarganfod gan swyddogion heddlu yn ei thŷ ar Ffordd Gomer yn ardal Townhill am 14:00 ddydd Iau, 27 Chwefror.
Nododd archwiliad post-mortem fod Ms Williams wedi dioddef anafiadau sylweddol, oedd yn gyson ag ymosodiad.
Fe fydd yn rhaid i Matthew Battenbough, 34, sydd heb gyfeiriad parhaol, dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo am ei lladd.
Fe blediodd yn euog i lofruddiaeth mewn gwrandawiad ym mis Awst.

Roedd Leanne Williams yn arbennig o hoff o geffylau a byd natur, medd ei theulu mewn teyrnged iddi
"Roedd y newyddion am farwolaeth Leanne yn ddinistriol i'w theulu ac i gymunedau ehangach Townhill ac Abertawe," meddai'r Ditectif Arolygydd David Butt o Heddlu De Cymru.
"Fe wnaeth gweithredoedd Matthew Battenbough gymryd bywyd Leanne, chwalu bywydau ei theulu ac achosi gofid anferthol i'w deulu ei hun.
"Rydym yn gobeithio bod y ddedfryd yma'n rhoi rhyw gysur i deulu a ffrindiau Leanne."
'Hiraeth garw ar ei hôl'
Mewn datganiad, dywedodd teulu Ms Williams: "Roedd Leanne yn hardd, cryf a charedig.
"Roedd yn caru'r byd natur ac anifeiliaid ac roedd ganddi gysylltiad arbennig â cheffylau.
"Roedd hi'n dyheu i helpu pobl eraill gael bod gyda cheffylau a merlod oedd wedi eu hyfforddi'n arbennig i fod yn sensitif i anghenion iechyd meddwl ac ati.
"Fe fydd hiraeth garw ar ei hôl."