Lluniau: Tafwyl 2016
- Cyhoeddwyd

Roedd y tywydd yn sych unwaith eto 'leni ar gyfer Tafwyl, dolen allanol. Roedd hi'n benwythnos braf i ddathlu Cymreictod ac wrth gwrs buddugoliaeth hanesyddol tîm pêl-droed Cymru nos Wener! Dyma i chi flas ar y digwyddiadau ar dir Castell Caerdydd trwy lens y ffotograffydd swyddogol Kristina Banholzer. Diolch i Menter Caerdydd, dolen allanol am gael rhannu'r lluniau. Mwynhewch!

Does dim amheuaeth pwy yw arwr y criw yma o Ysgol y Wern

Mae yna awyr-cylch braf yn Tafwyl

Dryma'r hwyl gorau 'dwi wedi ei gael heddiw!

Swigod bach a swigod mawr

'Fallai mai Balewyl fydd ei henw hi flwyddyn nesa'!

Pwy fyddai wedi meddwl fis yn ôl y bydden ni yn dal i Redeg i Paris gyda Chymru a Candelas?

Merched Cyncoed 'ta'r Tyllgoed ydy rhain?

Gobeithio na fydd yn rhaid iddo dyfu'n ddyn mawr i weld pêl-droedwyr Cymru'n llwyddo eto ar y llwyfan rhyngwladol

Roedd Alys Williams ymhlith yr artistiaid fu'n perfformio dros y penwythnos

"Dwi newydd weld amddiffynwyr Gwlad Belg wrth y stondin 'hot-dogs'!"

Gobeithio mai Portiwgal fydd angen rhain nos Fercher!

Bryn Fôn ar lwyfan Tafwyl

"Dwi wedi joio mas draw - wela i chi flwyddyn nesaf"