Mwy o gwynion i'r Ombwdsmon yn erbyn y GIG yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cynyddu 4% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dangos, o'r 798 cwyn gafodd eu gwneud i gyrff iechyd yn ystod 2015/16, bod 661 ohonynt wedi cael eu cofnodi yn erbyn byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth y GIG.
Mae cwynion yn erbyn cyrff y GIG yng Nghymru wedi cynyddu dros 50% dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae'r Ombwdsmon, Nick Bennett wedi galw am arweinyddiaeth fwy cadarn i "wyrdroi'r duedd".
Am yr ail waith yn unig mewn 10 mlynedd, cafwyd gostyngiad yn nifer y cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus - cwymp o 4% o'i gymharu â 2014/15.
'Angen deddfwriaeth newydd'
Mae'r Ombwdsmon hefyd wedi dweud bod angen deddfwriaeth newydd gan y Cynulliad ar gyfer ei swyddfa er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Mr Bennett: "Mae'r duedd gynyddol mewn cwynion i'r GIG yn bryder gwirioneddol ac mae angen arweinyddiaeth i rymuso staff rheng flaen fel eu bod yn gallu ymateb i anghenion cleifion ar draws Cymru.
"O ystyried bod y boblogaeth yn mynd yn hŷn a bod y cyni ariannol yn parhau, mae'r gofynion sydd ar y GIG yn fwy nag erioed ond mae'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni i wella gwasanaethau.
"Craffu yw un o'r prif ffactorau sy'n sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac rydw i'n awyddus i sicrhau bod gan gleifion Cymru lais i godi safonau."