Ymchwiliad Irac: Teuluoedd yng Nghymru yn disgwyl y gwir

  • Cyhoeddwyd
Peter McFerran
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr McFerran ei ladd ym mis Gorffennaf 2007

Bydd yr ymchwiliad gafodd ei sefydlu i edrych ar y rhyfel yn Irac, a'r penderfyniadau wnaeth ein harwain ni yno, yn cyhoeddi ei adroddiad hir ddisgwyliedig ddydd Mercher.

Dros 13 mlynedd ar ôl i filwyr Prydeinig, gan gynnwys Cymry, fynd mewn i Irac, a saith mlynedd ar ôl i'r ymchwiliad ddechrau - mae disgwyl i Syr John Chilcot fod yn feirniadol o'r rhai oedd yn gyfrifol.

Ac mae yna ddicter ynglŷn â'r amser mae wedi'i gymryd cyn cyhoeddi`r adroddiad. "Des na'm unrhyw gyfiawnhad" yn ôl cyn arweinydd seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd.

'Taflu goleuni'

Dywed Elfyn Llwyd, "Mae'n boenus braidd oherwydd da chi'n meddwl am y rhai sydd wedi colli anwyliaid yn y rhyfelodd ac sy'n dal i aros i weld y gwirionedd achos dyw'r gwirionedd dal heb ddod i'r golwg. Does na'm unrhyw gyfiawnhad dros gymryd amser fel hyn, mae wedi cymryd yn hirach i gael yr adroddiad na parodd y rhyfela".

"Dwi'n gobeithio mai taflu goleuni ar y gwirionedd bydd canlyniad yr adroddiad yma."

"Ac yn hynny o beth o fy nealltwriaeth i, mae yna fai yn mynd i fod ar Tony Blair am y ffordd yr oedd o wedi arwain pobl Prydain. Yn ogystal, ei senedd a'i gyd aelodau o'r cabinet, i gredu bod yna broblemau dirfawr, bod yna fygythiadau difrifol iawn i ynysoedd Prydain - bygythiadau a brofodd i fod yn nonsens yn y pendraw".

Cafodd 14 o bobl o Gymru oedd yn gweithio yn y lluoedd arfog eu lladd yn dilyn yr ymosodiad ar Irac yn 2003.

Roedd Peter McFerran oedd yn 24 oed ac o Gei Connah yn un ohonynt.

Mae ei dad, Robert McFerran yn gobeithio y bydd adroddiad Chilcot yn "dweud y gwir."

"Dweud y gwir am sut y daethon nhw i'r penderfyniad i fynd i Irac, pam wnaethon nhw benderfynu.

"Fe ddaw'r gwir allan. Os nad ydy hynny yn digwydd yna fe fyddai yn siomedig iawn, siomedig iawn."

Dywedodd Mr McFerran y dylai Tony Blair gael ei ddwyn i gyfri am y rhyfel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert McFerran yn gobeithio y bydd adroddiad Chilcot yn "dweud y gwir"

"Fe arweiniodd y wlad i ryfel heb fandad gan y Cenhedloedd Unedig na neb arall."

Mae nifer o`u teuluoedd wedi teithio i Lundain ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad.

Yn eu mysg, Theresa Evans o Landudno. Cafodd ei mab Llywelyn Evans ei ladd yn ystod oriau cyntaf y rhyfel. Roedd e'n 24 oed.

"Dwi`n nerfus.

"A gobeithio yn y tudalennau y cawn ni'r gwir. Fydden ni yn hoffi gwbod y gwir."

Disgrifiad,

Nerys Irving Jones, fu'n byw yn Baghdad, yn trafod adroddiad Chilcot i'r rhyfel yn Irac.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elfyn Llwyd, 'ni fydd hanes yn garedig i Tony Blair'

Eisoes mae rhai sy'n galw ar Tony Blair i dalu'r pris am ein harwain i ryfel gan gynnwys gyda Plaid Cymru a'r SNP.

"Mae'n hen gyfaill , Alex Salmond, ei blaid o a mhlaid i, yn edrych i mewn i'r posibilrwydd o barhau eto fyth gyda'r cwestiwn o uwch farnu Tony Blair, sy'n bosib hyd yn oed ar ôl gadael y senedd." meddai Mr Llwyd.

"Un peth sy'n sicr, fydd hanes ddim yn garedig wrth Tony Blair."

Gyda 2.5miliwn o eiriau mae'n mynd i fod yn adrodddiad swmpus, fydd o'n pleisio pawb? Gan ei fod yn bwnc mor ddadleuol, mae hynny yn annhebyg.