'Nain Gymreig' Hillary Clinton

  • Cyhoeddwyd
Hillary Clinton yn siarad mewn raliFfynhonnell y llun, Reuters

Mae cynrychiolwyr Democratiaid America yn ymgynnull yn Philadelphia ar 25 Gorffennaf i ddewis eu hymgeisydd i herio'r Gweriniaethwr Donald Trump yn yr Etholiad Arlywyddol yn ddiweddarach eleni.

Hillary Rodham Clinton yw'r ffefryn clir i gasglu'r enwebediau angenrheidiol, ond wyddoch chi bod ganddi hi 'chydig o waed Cymreig?

Mae haneswyr ac ymchwilwyr wedi darganfod cysylltiadau Cymreig gyda nifer o gyn-arlywyddion gan gynnwys Thomas Jefferson, Abraham Lincoln a Calvin Coolidge.

Mae 'na awgrym hefyd bod gan yr arlywydd presennol, Barack Obama, rywfaint o waed Cymreig drwy gyndeidiau pell iawn o Sir Fôn.

Ond petai Hillary Clinton yn ennill y ras am y Tŷ Gwyn, hi fydd yr arlywydd â'r cysylltiad teuluol agosaf y gwyddon ni amdano efo Cymru.

Mae Dafydd Whiteside Thomas wedi bod yn olrhain ei hachau a darganfod fod Hillary, drwy ei nain Hannah Jones, yn dod o linach hir o fenywod cryf o gymoedd y de. Ond yn gyntaf roedd rhaid datrys dirgelwch y ddwy Hannah...

Y ddwy Hannah... a Hillary

Credai Hillary Rodham Clinton fod ei nain, Hannah Jones, wedi ei geni yng Nghymru.

Dyna oedd barn y rhai fu'n olrhain ei hachau hefyd, nes i Megan Smolenyak ddarganfod fod dwy Hannah, a bod pawb, gan gynnwys Hillary ei hun, wedi derbyn yr Hannah anghywir fel y 'nain Gymreig'.

Ar ddechrau 1880 mudodd dau deulu o Brydain a sefydlu yn ardal Scranton.

Roedd gwreiddiau teulu'r Rodham yn ddwfn yn naear Northumbria, yn enwedig ardal Durham. O Ferthyr y daeth teulu Jones, ac yn fuan wedi cyrraedd y wlad newydd ganed Hannah.

Ffynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

A fu Clinton mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth benderfynu ar slogan ei hymgyrch?

Er mai gweithwyr cyffredin oedd aelodau'r ddau deulu yn cyrraedd, dringo i fyny'r ysgol gymdeithasol fu hanes y Rodhams. Nid felly y teulu o Gymru. Efallai mai dyna pam nad oedd teulu Rodham yn rhy hoff o fwriad Hugh i briodi Hannah Jones.

Methu darganfod cofnod o'r briodas honno arweiniodd at y camddealltwriaeth, ond daeth Megan Smolenyak ar draws adroddiad byr mewn papur newydd yn cofnodi'r briodas ar draws y ffin o gartref Hugh a Hannah - digon tebyg i'r rhai oedd yn dianc i Gretna Green am amryfal resymau ers talwm!

A'r adroddiad hwnnw arweiniodd at ddarganfod yr Hannah gywir - a'i theulu o Gymru. Hugh Ellsworth o'r briodas honno yn 1902 a briododd Dorothy Emma Howell yn 1942: rhieni Hillary Clinton.

Ond beth am y cefndir Cymreig?

Mary (Griffiths) Jones oedd mam Hannah, ac fe'i ganed ym Merthyr Tudful tua 1850. Yn ôl Cyfrifiad 1851 roedd y teulu'n byw ar y Waunfawr, Dowlais, a Mary, flwydd oed ac yr ieuengaf o blant Mary Griffiths, gweddw ifanc ddeugain a dwy oed, sy'n disgrifio'i hun fel 'oiling woman'.

Mae Rees, mab bach naw oed, yn gweithio fel 'coal door keeper'.

A hithau'n 20 oed, priododd Mary gyda William Jones, Glyn Nedd, a mudo rhyw 10 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae'n amlwg fod tad Mary wedi marw cyn ei geni neu'n fuan wedyn, a gellir bod yn weddol sicr mai George Griffiths oedd hwnnw.

Ceir cofnod o'i briodas ar 1 Chwefror 1830 ym Merthyr gyda Mary Abraham, a chofnod o'i farwolaeth ym mis Hydref 1850. Yng Nghyfrifiad 1841 mae'n disgrifio'i hun fel mwynwr haearn.

Cefndir diwydiannol, bywyd caled, tlodi affwysol a marwolaethau cynnar. Does ryfedd i Mary a'i gŵr ddianc i'r America yn y gobaith am fywyd gwell.

Mae achau Hillary Clinton ar ochr ei mam hefyd â chysylltiadau Cymreig, ond yn llawer teneuach!

Roedd hendaid Dorothy Emma Howell yn dod o Fryste; gŵr o'r enw Edwin John Howell. Roedd taid hwnnw - Benjamin Enoch Howell, yn dod o Sir Benfro, a'i wraig, Eleanor Williams, o Landeilo.

Mae digon o waed Cymreig yng ngwythiennau darpar Arlywydd Unol Daleithiau America.

Disgrifiad o’r llun,

A fydd 'na olygfeydd fel hyn yn Philadelphia i groesawu Hillary Clinton fel ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid?