Cymro'n sbardun i Speedway

  • Cyhoeddwyd
speedwayFfynhonnell y llun, Speedway GP

Rygbi, pêl-droed, bocsio a... Speedway. Mae disgwyl dros 50,000 o gefnogwyr y gamp yn Stadiwm y Principality ar 9 Gorffennaf i wylio Grand Prix Prydain - un o uchafbwyntiau tymor Pencampwriaeth y Byd FIM.

Mae Speedway yn hynod o boblogaidd yn Nwyrain Ewrop a Gwledydd Llychlyn ac mae'n un o'r campau mwyaf poblogaidd ar y teledu yno.

Er nad oes yna Gymry yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, Cymro o Gasnewydd yw pennaeth FIM Speedway, corff llywodraethol y gamp.

Roedd Phillip Morris yn rasiwr Speedway proffesiynol am bron i ugain mlynedd cyn troi ei law at yr ochr weinyddol. Bu'n trafod pwysigrwydd yr achlysur ac apêl y gamp gyda Cymru Fyw:

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn y Stadiwm Principality yn ystod y Speedway Grand Prix

Awyrgylch drydanol

Y Grand Prix yng Nghaerdydd yw pinacl y calendar Speedway, gan gofio bod y gyfres yn mynd i lefydd arbennig iawn fel Stadiwm Etihad yn Melbourne a'r Stadiwm Cenedlaethol yn Warsaw.

Ond dwi'n meddwl bod Caerdydd wastad yn dod i'r brig, ac mae'n arbennig iawn i mi gan mai fi sy'n rhedeg y gamp ac fy mod yn Gymro.

Mae yna gyngherddau a bob math o chwaraeon yna, ond pan mae Speedway yno dwi wir yn meddwl fod yr awyrgylch yn drydanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Speedway a thân gwyllt yn dod law yn llaw yn aml

Mae'n ddigwyddiad sy'n addas ar gyfer y teulu i gyd, ac mae 'na awyrgylch cyfeillgar lle mae pobl o wahanol wledydd yn mwynhau gyda'i gilydd yn wych.

Mae'n ddigwyddiad llawn hwyl a cyffro ac mi fyswn i'n annog unrhyw un i'w drio fe.

Ffynhonnell y llun, PhillipMorris.info
Disgrifiad o’r llun,

Phillip Morris yn ei ddyddiau rasio yn cydnabod ei gefnogwyr

Dyfodol Speedway yng Nghymru?

Does yna ddim gyrrwyr Cymreig yn cymryd rhan ar y funud, ond mae'r Grand Prix yma yn dod a lot o sylw i Gymru gyda phobl yn dod yma o bob cwr o'r byd.

Mae'n gyfle gwych i ddangos Caerdydd i'r byd hefyd. Dwi'n gwybod fod y cefnogwyr yn mwynhau y ffaith fod y digwyddiad yng nghanol y ddinas, ac felly maen nhw yn gallu mynd i siopa, i'r bae, ac i weld yr atyniadau cyfagos.

I'w gymharu a rhywle fel Wembley mae Caerdydd yn llawer mwy poblogaidd am fod lleoliad Wembley gymaint allan o'r ffordd.

Dyma'r ail Grand Prix mwyaf, tu ôl i'r un yn Warsaw - maen nhw wrth eu boddau efo'r gamp yn fanno.

Rhwng 1992 a 2010 pan ro'n i'n rasio yn broffesiynol, fi oedd yr unig un o Gymru. Mae'n siomedig nad oes 'na gystadleuwyr o Gymru yn y Grand Prix yma, ond dwi'n gobeithio y bydd yna fechgyn ifanc yn dewis troi at y gamp yn y dyfodol.

Mae'r mannau hyfforddi i'r timau ieuenctid wedi'w lleoli yn Lloegr hefyd, sy'n ei wneud yn anoddach i ddenu'r Cymry.

Roedd 'na drac yng Nghasnewydd, ond mae hwnnw bellach wedi cau, sy'n golygu bod unrhyw un o Gymru sydd eisiau cymryd rhan yn gorfod gyrru o leia' cwpl o oriau i ymarfer mewn canolfannau yn nwyrain Lloegr fel King's Lynn neu Scunthorpe.

Petai cynlluniau Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy yn cael eu gwireddu fe ddyle nhw wneud yn siŵr fod Speedway yn rhan o'r cynlluniau. Mae'n gwneud synnwyr i gynnwys Speedway - o leia' wedyn bydd 'na gyfle i Gymry ifanc cael trio'r gamp.

Disgrifiad o’r llun,

Y cynlluniau ar gyfer datblygu canolfan rasio ym Mlaenau Gwent