Carcharu gyrrwr wedi marwolaethau tad a mab

  • Cyhoeddwyd
Josh StaplesFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Josh Staples

Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu am 16 mis am achosi marwolaethau tad a mab, Stuart a Fraser Bates, wrth iddynt groesi ffordd yn Nhonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf.

Fe wnaeth Joshua Staples, 22 oed o Donyrefail bledio'n euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal.

Cafodd Mr Bates, 43 o Lanisien, Caerdydd, a'i fab saith oed, eu taro gan gar Staples wrth iddynt groesi'r A4119 tua 00:30 ar ôl bod mewn parti Nadolig ar 6 Rhagfyr.

Fe aed â Mr Bates i Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle bu farw o'i anafiadau.

Cafodd ei fab, Fraser ei gludo i Ysbyty Plant Bryste, ond bu farw o anafiadau i'w ben.

Fe wnaeth Staples bleidio'n ddieuog i gyhuddiadau o achosi marwolaethau drwy yrru'n beryglus.

Fe wnaeth y llys dderbyn ei ble.

Yn ogystal â carchar o 16 mis cafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ag wyth mis.