Angen i'r Senedd 'ddadwneud camgymeriad' rhyfel Irac
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i'r Senedd yn San Steffan "ddadwneud" y camgymeriad o ryfel Irac, yn ôl cyn AS Plaid Cymru.
Yn ysgrifennu yn y Sunday Times, dywedodd Adam Price y dylai Aelodau Seneddol a'r Arglwyddi weithredu yn erbyn Tony Blair wedi adroddiad Chilcot.
Ychwanegodd bod y penderfyniad gan Dŷ'r Cyffredin wedi gadael "staen ar ein democratiaeth".
Roedd Mr Price, sydd nawr yn Aelod Cynulliad, yn rhan o ymgyrch i uchelgyhuddo Mr Blair ynghylch Irac dros ddeng mlynedd yn ôl.
Dyw'r broses heb gael ei defnyddio ers 1806.
Adroddiad Chilcot
Yn adroddiad Sir John Chilcot, mae Mr Blair yn cael ei feirniadu am ddewis mynd i ryfel cyn ystyried yn llawn yr opsiynau heddychlon ar gyfer diarfogi Irac.
Roedd yna feirniadaeth hefyd o'r diffyg cynllunio ar gyfer Irac wedi'r rhyfel, a'r adnoddau oedd ar gael i filwyr.
Dywedodd Mr Price: "Y Senedd wnaeth y camgymeriad yma ac mae'n rhaid iddyn nhw ei ddadwneud drwy ddefnyddio'r teclynnau sydd ar gael."
Pe bai fersiwn modern o uchelgyhuddo - dirmyg o'r Senedd - yn cael ei basio, byddai "angen i'r cyn brif weinidog sefyll ger bron y tŷ fel mae'r cyhuddiad yn cael ei ddarllen allan," meddai.
Ychwanegodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr bod cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin i'r rhyfel wedi gadael "staen ar ein democratiaeth drwy bobl yn colli ffydd yn llwyr yn ein llywodraeth".
Mae Mr Blair wedi ymddiheuro am unrhyw gamgymeriad a wnaeth, ond nid y penderfyniad i fynd i ryfel.