Geid i gigs y Steddfod
- Cyhoeddwyd
Gareth Potter sydd â gair o gyngor ynglŷn â pha gigs ddylech chi fynd iddyn nhw yn ystod wythnos y Steddfod - ac yn sicr, mae digon o ddewis!
A hithau'n ganol haf, mae tymor y gwyliau cerddorol wedi cyrraedd. Pob penwythnos mae 'na ddewis eang o gaeau lle mae 'na lwyfannau a phebyll wedi'u codi a phobol yn ymgynnull er mwyn gwrando a dawnsio a dathlu gyda'i gilydd.
I ffans cerddoriaeth, mae edrych ymlaen at eu hoff ŵyl cystal (os nad yn well) nag edrych ymlaen at y Nadolig. Ac i ffans y sîn Gymraeg - y Steddfod ydi'r un. Mae ganddo'r hanes, y grwpiau ac yn bwysicach oll - y dorf. Os ydych chi am weld grwpiau'r sîn Gymraeg ar eu gore - fyddwch chi'n brysio tua'r Fenni, gyda'ch sach gysgu a phabell ar eich cefn, yn ystod wythnos gynta' mis Awst.
Dros y blynyddoedd dwetha' mae Maes B wedi mynd trwy drawsnewidiad anferthol ac erbyn hyn mae'n teimlo lawn cystal neu hyd yn oed yn well na llwyfannau unrhyw ŵyl bop ryngwladol. Mae'r elfen weledol yn helpu i greu awyrgylch a'r teimlad o achlysur arbennig, hyd yn oed cyn i chi gerdded mewn i'r babell.
Mae manylion fel hyn yn bwysig ofnadwy os ydych am gael eich cymryd o ddifri gan fynychwyr gigs y dyddie hyn, ac mae'r gwerthoedd cynhyrchu yn adlewyrchu gweledigaeth gyfoes a blaengar y tîm.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn darparu rhywbeth mwy amgen yn ddiweddar, trwy geisio agosáu at y gymdeithas leol. Eleni maent yn cynnal eu gigs yng Nghlwb Pêl-droed Y Fenni, ac mae rhywbeth ymlaen 'da nhw bob nos, o nos Sadwrn gynta'r ŵyl.
A beth sydd i'w ddisgwyl...?
Gig Cymdeithas nos Sadwrn 30 Gorffennaf, sef Cowbois Rhos Botwnnog, Kizzy Crawford, Rogue Jones, Hyll a DJ Syr Carl Morris sy'n dechre'r arlwy mewn steil.
Nos Sul, mi fydd Gwibdaith Hen Fran a chyn-enillydd gwobr albym Cymraeg y flwyddyn, Gareth Bonello yn ymuno gyda Raffjam, Jamie Bevan, â'r gantores Casi Wyn yn troelli ei dewis o diwns mewn set DJ. Noson sy'n edrych yn addawol iawn…
Alun Gaffey, sydd wedi cyrraedd rhestr fer albym y flwyddyn eleni, sy'n chwarau'r brif set ar y nos Lun gyda chefnogaeth gref iawn gan Capt Smith, HMS Morris a'r ardderchog ac unigryw Efa Supertramp yn gwneud ymddangosiad prin. DJ Skilti fydd yng ngofal yr olwynion dur…
Llwyfan poblogaidd
Erbyn dydd Mawrth mae Llwyfan y Maes yn dechre edrych yn atyniadol gyda Brigyn, Bob Delyn a Y Bandana yn ymestyn o'r prynhawn i'r nos. Mae'r llwyfan yma wedi dod yn boblogaidd iawn ac yn dod â phob cenhedlaeth at ei gilydd i fwynhau a chymdeithasu ar ôl diwrnod o Steddfota ar y Maes.
Ddydd Mercher mae Llwyfan y Maes yn cynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, gyda Candelas i orffen.
Maes B yn agor ei drysau
Ar nos Fercher, mae Maes B yn agor ar gyfer sioe Yws Gwynedd gyda chefnogaeth gref gan Yr Eira, Capt Smith, Argrph a DJs Elan a Mari. Yn draddodiadol, dyma pryd mae'r dyrfa'n dechre cryfhau, gyda'r bobl ifanc yn disgyn ar Y Fenni er mwyn partïo go iawn…
Un o uchafbwyntiau gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd fis Gorffennaf eleni oedd perfformiad Eden, ac maen nhw'n perfformio yn y Clwb Pêl-droed ar y nos Iau gyda Skep, sydd wedi ail ffurfio ar gyfer yr achlysur, Jambyls, Yr Elvis Cymraeg a Syr Carl Morris ar y decs.
Ar yr un noson, nid yn unig y mae Y Reu, HMS Morris, Alun Gaffey, Castles a Cadno (gyda fi yn DJ) yn Maes B, ond hefyd mae Huw Stephens yn cyflwyno Candelas, Yr Ods, Swnami a'r cyfansoddwr Owain Llwyd i gyd i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra yn Y Pafiliwn. Noson unigryw fydd yn rhoi cyfle i ni werthfawrogi rhai o'n grwpiau mwyaf poblogaidd dan olau newydd.
Dylai prynhawn Gwener ar lwyfan y Maes fod yn un prysur gyda HMS Morris, Y Reu, Swnami, Band Pres Llareggub a Huw Chiswell yn llenwi'r slot 'chwedlonol' ddiwedd y nos.
Noson electronaidd fydd yn y Clwb Pêl-droed ar y nos Wener gyda'r Roughion yn dod â'u parti 'da nhw, a'r ardderchog Ani Glass, JJ Sneed, DJ Wuwzer a Rufus Mafus gyda Pat Datblygu a Gwenno'n DJ'o hefyd. Dyle hwn fod yn wych a chwarae teg i Gymdeithas yr Iaith am hyrwyddo hwn.
Os ydy'ch chwaeth yn fwy roc a rôl, cerwch draw i Maes B lle mae Y Bandana, Candelas, Mellt, Fleur De Lys, Calfari a DJ Huw Stephens yn darparu noson sy'n swnio'n anferthol.
Mi fydda i yn DJ'o ar lwyfan y Maes prynhawn Sadwrn gyda fy hoff fand newydd sef Anelog. Hefyd ar y llwyfan fydd Rhys Gwynfor, Plu, Geraint Lovgreen a Cowbois Rhos Botwnnog.
Daw wythnos Cymdeithas i uchafbwynt ar nos Sadwrn gyda Bob Delyn, Brython Shag, Candelas a DJ Syr Carl Morris yn y Clwb Pêl-droed.
Fe fydd Band Pres Llareggub ac Anelog yn cludo'u trombôns a'u allweddellau o'r Maes draw i Faes B lle fyddant yn ymuno gyda Yr Ods, Mr. Phormula, DJs Elan a Mari ac enillydd brwydr y bandiau, ar gyfer noson ola'r ŵyl.
Profiadau newydd
Os ydych chi am ychydig bach o gyngor ar gyfer yr wythnos - treuliwch ychydig o amser yn y dre. Mae'r Fenni'n lle dymunol iawn a gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn treulio pob nos yn yr un lle a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mynd i weld rhywun newydd.
Yn bersonol, rwy'n edrych 'mlaen at weld Anelog, Plu, Alun Gaffey ac Ani Glass. Ond y ddwy noson sy'n sefyll ma's i mi yw 'Noson Huw Stephens yn Cyflwyno' ar y nos Iau yn y Pafiliwn a Noson Electronaidd Cymdeithas Yr Iaith yn y Clwb Pêl-droed.
Ond beth bynnag y gwnewch chi - joiwch. Mae arlwy Y Fenni 2016 yn edrych yn ardderchog.