Marwolaethau SAS: Diffyg erlyniad yn 'hynod siomedig'

  • Cyhoeddwyd
Craig Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Is-gorporal Craig Roberts yn un o dri milwr fu farw

Mae rhieni un o'r tri milwr fu farw ar Fannau Brycheiniog wedi dweud eu bod yn "hynod siomedig" na fydd y llywodraeth yn caniatáu erlyniad yn erbyn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts a dau arall ar hyfforddiant yr SAS ym Mhowys yn 2013.

Dywedodd y llywodraeth na fyddai caniatáu achos cyfreithiol yn gwella diogelwch.

Ond mae Kelvin a Margaret Roberts yn dweud eu bod yn credu y byddai'r fyddin yn fwy cyfrifol pe bai cyfrifoldeb cyfreithiol.

'Hynod siomedig'

Ym mis Mawrth, cafodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gerydd am y methiannau wnaeth arwain at farwolaethau'r Is-gorporal Roberts o Fae Penrhyn, y Corporal James Dunsby o Wiltshire a'r Is-gorporal Edward Maher o Hampshire.

Yn y cwest i'w marwolaethau, dywedodd crwner bod esgeulustod wedi cyfrannu at eu marwolaethau.

Fe wnaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyhoeddi'r cerydd uchaf sy'n bosib, gan nad oes modd erlyn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae'r weinyddiaeth wedi ymddiheuro am y methiannau.

Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r Is-gorporal Roberts oedd y Corporal James Dunsby a'r Is-gorporal Edward Maher

Ond wrth ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Dethol Amddiffyn Tŷ'r Cyffredin, fe wnaeth Llywodraeth y DU wrthod newid y ddeddf Dynladdiad Corfforaethol o 2007.

Dywedodd Mr a Mrs Roberts: "Rydyn ni'n hynod siomedig bod y llywodraeth wedi penderfynu peidio derbyn argymhelliad y... pwyllgor i gael gwared ar freintryddid y Weinyddiaeth Gyfiawnder pan maen nhw'n cael cerydd.

"Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn methu gweld sut y byddai tynnu'r breintryddid yn gwella safonau hyfforddiant milwrol, ond, rydyn ni'n credu pe bai'r weinyddiaeth yn gyfrifol yn gyfreithiol yna y byddan nhw'n fwy cyfrifol a diwyd wrth hyfforddi."

Ychwanegon nhw eu bod yn "falch bod y Pwyllgor Amddiffyn yn bwriadu parhau eu diddordeb yn y mater gyda'r weinyddiaeth".

Roedd y tri dyn ar hyfforddiant ar un o ddiwrnodau poethaf 2013 pan gawson nhw eu taro'n wael.

Daeth y cwest i ganlyniad eu bod wedi marw o orboethi, a dywedodd y crwner bod perygl o fwy o farwolaethau os nad oedd newid.

Daeth ymchwiliad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i'r canlyniad bod y weinyddiaeth wedi methu a chynllunio, asesu a rheoli'r risgiau ynghlwm a'r hyfforddi.