Galw am wario £1bn ar reilffyrdd y gogledd

  • Cyhoeddwyd
trenau

Ceisio sicrhau gwerth £1bn o welliannau i'r gwasanaeth rheilffyrdd ar draws y gogledd a dros y ffin yn Lloegr yw nod ymgyrch newydd sy'n cael ei chyhoeddi ddydd Iau.

Yn ôl trefnwyr ymgyrch Growth Track 360, fe allai gwariant o'r fath drawsnewid economi'r ardaloedd hynny a chreu 70,000 o swyddi dros gyfnod o 20 mlynedd.

Mae'r ymgyrch yn cael cefnogaeth pobl fusnes, gwleidyddol a ffigyrau o'r sector gyhoeddus.

'System glyfar, fodern'

Mae wyth awdurdod lleol yn cefnogi'r ymgyrch yn ogystal â Chyngor Busnes Gogledd Cymru a siambr Fasnach Gorllewin Sir Gaer a'r gogledd.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Mae gennym weledigaeth am system drafnidiaeth gyhoeddus glyfar, fodern ac integredig fydd o gymorth i ni ddatgloi gwir botensial economaidd y rhanbarth, gan sicrhau y gallwn ni gyflawni'n statws fel rhan allweddol o Bwerdy'r Gogledd a'n helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd yn economi'r DU."

Yn ôl Ashley Rogers, Cadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru, mae yna botensial mawr i'r cynlluniau: "Byddai pob rhan o'n heconomi a phob cymuned yn y rhanbarth yn elwa'n aruthrol o'r buddsoddiad hwn yr ydym wedi bod yn aros lawer yn rhy hir amdano.

"Allwn ni ddim a fforddio i'r rhan yma o'r DU ddod yn ardal dlawd, a chael ei gadael ar ôl yn y ras am fuddsoddiad ac uchelgais y Llywodraeth am bwerdy yn y gogledd."

Rhai o alwadau'r ymgyrch:

  • Trydaneiddio'r lein rhwng Crewe a'r gogledd, fel y gellid cysylltu'r rhanbarth â HS2, a gall trenau cyflym Llundain barhau i Fangor a Chaergybi;

  • Dyblu nifer y teithiau trên rhwng lein Arfordir y Gogledd a Wrecsam i Fanceinion trwy Gaer;

  • Buddsoddi mewn trenau newydd, modern;

  • Creu gwasanaethau newydd rhwng Lerpwl a'r maes awyr yno a'r Gogledd

  • Dyblu nifer y teithiau trên rhwng Wrecsam a Lerpwl trwy Lannau Dyfrdwy a Bidston.

Ynghlwm wrth y cynlluniau mae galw am wella gorsafoedd, moderneiddio cyfleusterau, a chreu system docynnau clyfar er mwyn hwyluso teithio a chynnig prisau rhatach.

'Rhyddhau potensial'

Mae Ken Skates, Ysgrifenydd Economi ac Isadeiledd Llywodraeth Cymru, wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud bod "gwasanaethau trên yn rhan allweddol o'n rhaglen moderneiddio cludiant ar draws Cymru".

"Ry' ni eisiau gweld gwasanaeth cludiant integredig cyflymach ac amlach, sy'n rhoi blaenoriaeth i anghenion teithwyr.

"Mae cysylltu pobl â swyddi, a busnesau gyda chyfleoedd i dyfu yn angenrheidiol os yw economi'r gogledd i barhau i dyfu a chwrdd â'i botensial.

"Mae cynigion Growth Track 360 yn gosod gweledigaeth i reilffyrdd y rhanbarth sy'n rhyddhau'r potensial economaidd ar ddwy ochr y ffin."

Bydd yr ymgyrch hefyd yn lobïo ffigyrau blaenllaw o fewn y diwydiant rheilffyrdd i ddadlau eu hachos dros y buddsoddiad.