Yr ifanc a ŵyr?: 'Run Sbit

  • Cyhoeddwyd
Caren a Linda BrownFfynhonnell y llun, S4C/Iolo Penri

Mae Linda Brown, gweinyddwr i gwmni drama Bara Caws, yn un o hoelion wyth y theatr yng Nghymru a'i merch, Caren, yn gyn actores sydd yn rheoli gwasanaeth i deuluoedd yng Nghyngor Gwynedd.

Mae'r ddwy wedi dod i sylw cynulleidfa S4C yn ddiweddar yn chwarae mam a merch yn y gyfres gomedi 'Run Sbit.

Mae Linda yn dal i fyw yn ei bro genedigol gyda'i gŵr Pete ym Methesda dafliad carreg o dŷ Caren a'i merch arall, y gantores Lisa Jên Brown sy'n canu gyda 9Bach.

Gyda chyfres arall o 'Run Sbit ar y gweill, cafodd Cymru Fyw sgwrs efo nhw i ddarganfod pa mor debyg yw eu perthynas go iawn i'r berthynas ar y teledu?

line

Linda Brown

Dwi'n siŵr mod i'n ei gyrru hi'n boncyrs. Ond mae hi bob tro'n deud wrtha'i, "Caru chdi Mama".

Mae perthynas Caren a fi ar 'Run Sbit yn debyg iawn i fywyd go iawn faswn i'n ddeud - fi'n wallgo a Caren yn fwy pwyllog a'i thraed ar y ddaear.

Gawson ni lot o hwyl yn gwneud y gyfres, rydan ni 'di mwynhau cydweithio yn ofnadwy ac wrthi'n gwneud cyfres arall. Mae 'na betha reit ddoniol yn digwydd. Mae Caren yn bwydo'r cynhyrchwyr efo straeon go iawn amdana' i - mae 'mywyd i 'chydig bach fel fy nghymeriad.

Mae 'na betha gwallgo'n digwydd imi. Os oes 'na ryw ddrama, mae o o nghwmpas i, garantîd.

'Dim gymaint o hyder'

Ron i'n ifanc iawn yn cael Caren, 19 oed, ac es i nôl i weithio yn y brifysgol wedyn. O fanno ges i'n job gynta yn y theatr sef gweithio i Theatr Cymru yn Theatr Gwynedd efo Wilbert Lloyd Roberts.

Mi ges i fy nerbyn yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd tra ro'n i yno, ond nes i banicio a pheidio mynd achos roedd Caren yn hogan bach a doedd gin i ddim gymaint o hyder a sgin i rŵan.

Faswn i'n gneud fatha shot rŵan wrth gwrs!

Y tro diwetha' inni gydweithio oedd pan oedd Caren yn hogan fach - roedd hi'n perthyn i gwmni drama Bangor a chwmni Llechan Las ym Methesda ac yn cymryd rhan mewn pantos a dramâu Shakespeare a ballu.

Caren, Linda a Lisa Jên
Disgrifiad o’r llun,

Linda gyda'i dwy ferch Caren a Lisa Jên

Roedd hi'n blentyn bach lyfli ac yn teenager hyfryd.

Roedd hi'n licio cystadlu. Roedd hi'n canu, yn adrodd, yn chwara'r ffliwt, y fiolín a'r piano ac roedd hi'n hogan hawdd delio efo hi - doedd hi byth yn hogan ddrwg!

Ar ôl byw yng Nghaerdydd am gyfnod mi ddoth nôl i'w bro ar ôl cael ei merch, Elin, a phenderfynu na fedrai hi fynd a theithio a gadael ei babi bach felly aeth hi'n swyddog gyrfâu am tua 14 mlynedd.

Mae hi'n byw jyst lawr y lôn imi yn Gerlan.

Mi ddaeth fy merch arall, Lisa, nôl o Lundain i fagu ei phlant hi hefyd ac mae hi'n byw chwech tŷ oddi wrthaf fi, yn hen dŷ mam. Mae'r ddwy yn caru eu bro.

Fel tair chwaer

Mae Caren, fel fi, yn gwneud lot o bethau cymunedol. Mae hi ar bwyllgorau hyn a'r llall, yn ysgrifennydd hyn a'r llall, ac mi rydan ni'n gwneud lot efo'n gilydd, er enghraifft rydan ni ar bwyllgor Steddfod Dyffryn Ogwen efo'n gilydd.

Dani'n tair fatha tair chwaer, yn agos iawn. 'Dan ni i gyd yn cael cinio dydd Sul yn nhai ein gilydd bob dydd Sul fel teulu - cŵn a bob dim - a dani'n cael hwyl ac yn canu ar ôl cael cinio efo sosbenni a gitârs a bob dim. Mae 'na lot o bobl isho dod am ginio dydd Sul aton ni!

Dyna pryd rydan ni'n cael cyfle i ddal i fyny'n iawn a rhoi'r byd yn ei le.

Linda Brown gyda'i wyresauFfynhonnell y llun, Caren Brown
Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda yn para'n agos iawn i'w merched a rŵan hefyd i'w tair wyres

Mae Caren yn hapus iawn yn y job mae hi ynddo fo ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl ei bod hi'n cael lot o foddhad o'i swydd a newydd gael dyrchafiad fel rheolwr cynllun cymunedol i helpu teuluoedd yng Ngwynedd. Dydi hi byth yn cwyno ac mae'n gweithio'n galed.

Ond dwi'n gwybod bod ei chalon hi yn yr actio - mae hi'n caru actio. Hi oedd yn lleisio cyfres wreiddiol Peppa Pinc.

Dwi di dysgu gan Caren i bwyllo ychydig a pheidio panicio am betha. Mae hi'n berson caredig iawn iawn hefyd, ac addfwyn, yn gwneud yn siŵr bod ei ffrindia a'i theulu hi'n iawn.

Be dwi di drio ei ddysgu iddi hi fel mam ydy i wneud ei gora bob amser a meddwl am bobl eraill.

Does na ddim un tro pan nad ydan ni wedi bod yn agos; rydan ni wedi ffraeo wrth gwrs - fi'n bod yn stropi mwy na Caren, a Caren yn ddifynadd. Neith Caren ddeud ei deud a wedyn mi wnâi bwdu ella. Ond fedrai ddim meddwl am lot o amseroedd dani di ffraeo.

Dwi'n mwynhau bod efo pobl ifanc a dwi wastad yn cael hwyl yng nghwmni ffrindiau'r genod ac maen nhw'n fy nghymryd i fel mêt hefyd felly dwi'n cael rhannu yn eu cyfeillgarwch nhw - "No show without punch" fel mae Caren yn ddweud!

Linda Brown yn Bara Caws
line

Caren Brown

Dwi'n meddwl mai perfformwraig rwystredig ydy mam. Mae hi wrth ei bodd efo'r sylw mae hi'n ei gael ers 'Run Sbit.

Mae 'na hogiau ifanc, 10 - 40 oed, yn dod aton ni a deud ryw linella oedd ar y rhaglen ac mae mam wrth ei bodd. A'r munud ma' nhw'n gofyn os gawn nhw dynnu llun, mae hi yna fatha siot.

Roedd hi yn Steddfod yr Urdd 2016 yn hyrwyddo sioe Wynff a Plwmsan, Raslas Bach a Mawr, ac roedd hi'n deud bod y plant yn ei hadnabod hi yn fwy nag roedden nhw'n adnabod Wynff a Plwmsan. Roedd hi wedi gwirioni eu bod yn dod ati hi i gael ei llofnod hi yn hytrach na nhw.

Mae'n perthynas ni ar 'Run Sbit yn weddol debyg i'r gwir. Weithia' dwi'n edrych fatha mod i'n flin efo hi drwy'r amsar ond dydw i ddim yn gwylltio gymaint efo hi go iawn, ac yn chwerthin mwy.

Brenhines y 'malapropisms'

Ond mae hi'n deud petha' rhyfedd ac yn ffeindio ei hun mewn sefyllfaoedd gwirion iawn weithia'. Ac mae'r malapropisms mae hi'n ddeud de ... mai'n cael geiria'n rong drwy'r amsar!

Nath Cefin Roberts ofyn iddi unwaith: "Sut oedd yr agoriad?"

"Wel, oedd y canabis yn ffantastig!" medda hi. 'Canapes' oedd hi'n feddwl.

Mi ddywedodd wrth rywun tra ar wyliau yn ddiweddar ei bod hi'n cofio pan oedd Tchaikovsky yn arlywydd Rwsia.

Caren Brown a Linda BrownFfynhonnell y llun, Caren Brown

Mae 'na ddrama efo hi drwy'r amser.

Mae mam 'di gneud y Theatr yn fywyd iddi hi. Pan 'nath hi ymuno efo Bara Caws, dwi'n cofio ei bod hi'n crio am y mis cynta' roedd hi yno. Ond wedyn, does 'na ddim stop 'di bod arni hi.

'Dan ni i gyd 'di goro byw hyn efo hi achos dyna i gyd 'dan ni'n glywed adra drwy'r amsar ydi be sy'n digwydd yn y theatr, bob munud.

Mae ei theulu'n bwysig ofnadwy iddi hi ac rydan ni'n ganolbwynt mawr i fywyd mam, yn ogystal â'r theatr! Dyna ydi dau bashiwn mawr ei bywyd hi.

Linda Brown (chwith) efo wynebau adnabyddus cwmni theatr Bara CawsFfynhonnell y llun, Derec Owen
Disgrifiad o’r llun,

Linda Brown (chwith) efo wynebau adnabyddus cwmni theatr Bara Caws

Hefyd mae hi'n mwynhau'r ochr trefnu; mae gwaith actor yn gallu bod yn unig iawn ond mae be mae mam yn neud yn golygu siarad efo pawb.

'Steddfod yn 'hunllef'

Mae mynd efo hi i rwla fatha'r Steddfod yn gallu bod yn hunllef. Asu, dwi'n gallu ffraeo efo hi ar faes y Steddfod!

Mae pobl yn gwneud beeline amdani ar y maes a mai wrth i bodd efo hynny. Mae gynni hi amsar i bawb, hyd yn oed os ydio'n ei gwneud hi'n hwyr - a dyna sy'n y ngwylltio i! Mae croesi o un ochr i'r llall yn gallu cymryd awr achos mai'n nabod pawb a mae gynni hi ffasiwn ddiddordeb mewn pobl a be mae'n nhw'n neud.

Roedd hi'n mynd â fi i bob man efo hi pan oeddwn i'n fach. Dwi'n meddwl bod hynna 'di ngwneud i yn berson ofnadwy o hyderus - oni'n gorfod delio efo bob math o bobl. Dwi'n cofio cyfarfod Bryn Fôn am y tro cyntaf yn Theatr Gwynedd a bod yn starstruck.

Mae hi'n garedig iawn a neith hi helpu unrhyw un a dwi 'di tueddu i etifeddu hynny achos dwi'n ei ffeindio hi'n anodd iawn deud na.

Felly rydw i, a mam yn enwedig, yn mynd allan yn gyson i gyfarfodydd, i'r cyngor, i ryw bwyllgor neu bwyllgor apêl, neu rwbath codi arian.

Weithia pan dwi'n ffeindio fy hun allan bob noson o'r wythnos dwi'n meddwl, "Dyma ni, dwi'n gneud yn union fatha mam!"

'Sgons dy fam'

Mae hi'n gneud sgons o leia' unwaith yr wythnos rhwng mis Medi tan yr haf nesa' ar gyfer ryw fora coffi neu'i gilydd ym Methesda a mae pobl yn disgwyl wrth y byrddau yn gofyn "Sgons dy fam di rhain?"

Mae dad yn helpu hefyd, mae'n cael ei ordro i neud sgons a deud y gwir - dwi'm yn gwbod fasa fo'n gneud nhw o'i wirfodd.

Mae gafael mam yn ofnadwy o gryf arnon ni - mae hi'n ddylanwad mawr arnan ni ac mae'n gefnogol iawn hefyd.

Fel gwnaeth hi efo fi mae mam wedi mynd a fy merch i Elin i bob man hefyd - ar wyliau ac i'r theatr. Aeth mam â hi i weld Blodeuwedd a Macbeth i'r theatr pan oedd hi tua dwy oed.

Mae mam wedi cael ei mabwysiadu felly dwi'n meddwl mai dyna pam bod teulu agos yn ofnadwy o bwysig iddi hi.

Linda BrownFfynhonnell y llun, Caren Brown

Neith hi wneud rwbath i beidio bod yn tŷ. Mae hi'n brysur iawn ond mae hi'n licio'i gwyliau.

Mae pobl yn gofyn imi "Ydi hi yn y wlad wsos yma?" Mae hi fatha'r Cwîn! Mae hi angan fflag tu allan i'r tŷ i ddangos ei bod hi in residence.

Er fod mam yn ymddangos fel tasa dim byd yn ei phoeni hi, mae petha bach yn ei ypsetio hi. Er ei bod hi'n hyderus mai'n berson reit ddwys a mae hi a Lisa yn debyg iawn yn hynna. Dwi'n debyg iddi o ran bod yn brysur ond dwi yn fwy gwydn 'falla. Dwi reit debyg i dad, yn fwy easy going.

Dwi'n meddwl mod i 'di dysgu ganddi ei bod hi'n bwysig bod yn garedig efo pobl, a rhoi amsar i bobl ac i barchu pobl a'u trin fel ti isho cael dy drin dy hun. Hefyd, i fod yn hyderus yn be' ti'n neud, peidio bod ofn mentro a pheidio bod ofn gofyn os wyt ti eisiau help neu eisiau trio rhywbeth gwahanol.

Dwi ddim yn gwybod o lle mae'r diddordeb yn y ddrama wedi dod. Ond mae o wedi gafael ynddi hi a dio'm di gollwng a dwi'n edmygu hynna ynddi hi'n fawr iawn.

Dwi'm yn gwybod pam nad ydi hi wedi cael ei derbyn i'r Orsedd eto! Dwi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i rywun ei henwebu hi am ei gwasanaeth i'r Theatr Gymraeg - a 'sa'i wrth i bodd! Fysa hynna'n rwbath 'sa'i'n ei fwynhau yn fawr iawn!

Hefyd gan y BBC