Stephen Crabb yn ymddiswyddo 'er lles ei deulu'
- Cyhoeddwyd

Stephen Crabb yn cyrraedd Downing Street
Mae Stephen Crabb wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, yn dilyn honiadau am ei fywyd preifat.
Mewn datganiad, dywedodd Aelod Seneddol Preseli Penfro ei fod yn camu lawr o'i rôl yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig "er lles ei deulu".
Daw ei benderfyniad wrth i'r Prif Weinidog newydd, Theresa May, benodi ei chabinet.
Yn y cyfamser, bydd Alun Cairns yn parhau yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Cafodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg ei benodi i'r swydd ym mis Mawrth eleni.

Alun Cairns tu allan i Downing Street
'Anrhydedd'
Roedd bywyd personol Mr Crabb, 43 oed, yn y penawdau dros y penwythnos gyda honiadau ei fod wedi gyrru negeseuon awgrymog i ddynes yn ei 20au.
Dywedodd: "Dros y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi cael yr anrhydedd anferth o wasanaethu yn y Cabinet.
"Wedi adlewyrchu ar y penderfyniad yn ofalus, rwyf wedi rhoi gwybod i'r Prif Weinidog heddiw, er lles fy nheulu, na allai fod yn rhan o'i llywodraeth ar hyn o bryd.
"Rwy'n werthfawrogol i fy holl dîm am eu gwaith caled a'u cefnogaeth. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi gweledigaeth un genedl y llywodraeth o'r meinciau cefn."
Cafodd Mr Crabb ei ethol yn AS Preseli Penfro yn 2005 a bu'n Ysgrifennydd Cymru wedi ei benodiad ym mis Gorffennaf 2014 cyn cael dyrchafiad ym mis Mawrth eleni.
Olynydd Mr Crabb fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fydd Aelod Seneddol Ashford, Damian Green, gafodd ei eni yn y Barri.