Dathlu canmlwyddiant y Gymanfa Ganu yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
GorseddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1916

Eleni, mae'n ganrif ers cynnal y gymanfa ganu gyntaf anenwadol yn yr Eisteddfod, a nos Sul, bydd cyfle i edrych yn ôl ar y ganrif hon drwy ganu a mwynhau rhai o emynau blaenaf ein cenedl.

Gyda'r wlad yn dioddef colledion enbyd y Rhyfel Mawr, syniad yr Ysgrifennydd Rhyfel ar y pryd, David Lloyd George, oedd y dylid cynnal Cymanfa Ganu fawreddog ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn Aberystwyth a'i farn bendant oedd bod canu'n fendithiol ar bob achlysur.

Roedd hon yn dipyn o gymanfa - tri chyfarfod o ddwy awr yr un am 10.00, 14.00 a 18.00, ddydd Gwener 18 Awst 1916. Wrth areithio yng nghyfarfod yr hwyr, dywedodd Lloyd George ei fod yno fel aelod o Bwyllgor Gweithiol y gymanfa, a'i bod yn hynod briodol ei bod yn cael ei chynnal mewn cyfnod o ryfel oherwydd gallai'r gynulleidfa 'fynegi mewn cân deimladau nas gallent eu mynegi mewn geiriau'.

Disgrifiad o’r llun,

Alwyn Humphreys

Yn y rhagair i raglen y gymanfa ceir eglurhad o amcan y cyfarfodydd: 'Rhoddi cyfle i genedl grefyddol fynegi ei theimlad dyfnaf mewn amser mor enbyd - canu hymnau annwyl ar donau Cymreig yng nghanol rhyfel fwyaf y byd'. Dywedir hefyd i'r dewis o donau anelu at roi pwyslais ar alawon Cymreig a miwsig gan gyfansoddwyr diweddar fel Joseph Parry, John Ambrose Lloyd ac eraill.

Er mai lle i 6,000 oedd yn y pafiliwn bu raid tynnu'r ochrau i lawr er mwyn cynnwys y tros 11,000 oedd wedi ymgynnull - rhywbeth a oedd yn bosib diolch i'r tywydd braf. Yr Archdderwydd ar y pryd oedd Dyfed - y bardd Evan Rees - a'i farn o oedd bod y gymanfa wedi bod yn fodd i greu ysbryd heddychlon o fath arall. Yn y cyd-destun hwnnw fe wnaeth o erfyn yn daer am greu llyfr emynau cyffredin ar gyfer yr enwadau i gyd. Ac wrth gwrs, fe ddigwyddodd - er i ni orfod disgwyl tan 2001 am ymddangosiad 'Caneuon Ffydd'.

Bydd y Gymanfa Ganu'n cael ei chynnal yn y Pafiliwn am 20:00 nos Sul dan arweinyddiaeth Alwyn Humphreys, a'r organydd fydd Rob Nicholls.

Disgrifiad o’r llun,

Torf yn croesawu Lloyd George (ar dde y llun) i Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916.

Disgrifiad o’r llun,

Canu mewn Cymanfa ddiweddar yn y Pafiliwn