Swydd newydd i gyn Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
David Jones
Disgrifiad o’r llun,

David Jones

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi cael swydd yn llywodraeth newydd Theresa May.

Fe fydd AC Gorllewin Clwyd yn weinidog yn y Weinyddiaeth ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth Mr Jones arwain yr ymgyrch Vote Leave yng Nghymru yn ystod y refferendwm.

Yn dilyn ei benodiad fe wnaeth Mr Jones drydar i ddweud fod derbyn y swydd yn "anrhydedd".