Lle oeddwn i: Cadeirio '76
- Cyhoeddwyd
Roedd o'n ddigwyddiad wnaeth ysgwyd yr Eisteddfod. Ddeugain mlynedd yn ôl, ym Mhrifwyl Aberteifi 1976, cafodd awdl y Prifardd Dic Jones 'Y Gwanwyn' ei dyfarnu yn fuddugol am y Gadair. Ond, fe ddaeth hi i'r amlwg ei fod o wedi torri rheolau'r gystadleuaeth.
Roedd y bardd lleol o Flaenannerch yn aelod o bwyllgor llên yr Eisteddfod, felly doedd dim hawl ganddo i gystadlu. Yn digwydd bod, roedd bardd arall yn deilwng o'r wobr, Y Prifardd Alan Llwyd. Mae'n disgrifio wrth Cymru Fyw sut y cafodd ei gadeirio mewn amgylchiadau mor chwithig ac unigryw:
Cadair hanesyddol
'Y Gwanwyn' oedd testun y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976, ac ar gyfer cystadleuaeth y Goron gofynnwyd am ddilyniant o hen benillion ar y testun 'Troeon Bywyd'.
Roeddwn i wedi ennill y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973, ac nid oeddwn wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers hynny. Yn wir, 'doeddwn i ddim ar frys i gystadlu ar ôl ennill yn Rhuthun, ond fe apeliodd testun y Gadair ataf, a phenderfynais gystadlu.
Yn ogystal â thestun da, roedd rheswm arall pam yr oedd cystadlu yn Eisteddfod 1976 wedi apelio ataf. Gan mai yn Aberteifi yn 1176 y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf oll yng Nghymru, dan nawdd yr Arglwydd Rhys, Arglwydd Deheubarth Cymru, byddai Eisteddfod Aberteifi yn dathlu sefydlu'r eisteddfod wyth ganrif yn union yn ôl.
Roedd Cadair 1976, felly, yn Gadair hanesyddol iawn, yn Gadair symbolaidd, mewn gwirionedd, a oedd yn dathlu ein parhâd a'n goroesiad.
Gweithiais ar yr awdl am fisoedd, ac fe'i hanfonais i'r gystadleuaeth, ynghyd â chasgliad o hen benillion ar gyfer cystadleuaeth y Goron. 'Doeddwn i ddim wedi bwriadu cystadlu am y Goron o gwbwl, ond roedd yr holl fyfyrio ar destun y Gadair, a'r holl ysgrifennu, wedi rhyddhau a rhwyddhau'r ffordd ar ei chyfer.
Siom
Fel roedd yn digwydd roeddwn i'n symud o Ben Llŷn i Abertawe i fyw oddeutu'r un adeg â dyddiad cau'r Eisteddfod, i weithio fel golygydd i un o brif weisg Cymru ar y pryd.
Cefais wybod, ryw bythefnos cyn yr Eisteddfod, fy mod wedi ennill y Goron, ond dim gair am y Gadair. Roedd hynny yn fymryn bach o siom i mi, gan mai ar yr awdl y gweithiais fwyaf.
Roeddwn i wedi dechrau canlyn merch o Abertawe, Janice Harris, ym mis Ebrill 1976, ac roeddem wedi penderfynu priodi yn fuan iawn, ond rhaid oedd cael Eisteddfod Aberteifi heibio i ddechrau. Ac fe aethom i'r Eisteddfod.
'Daeargryn o frawddeg'
Brynhawn dydd Llun aeth Janice a minnau i grwydro'r maes. Daeth Berwyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, atom ar y maes, a dywedodd fod swyddogion yr Orsedd am fy ngweld. Ac meddai, mewn daeargryn o frawddeg: 'Wy'n meddwl 'u bod nhw am gynnig y gader i chi!' Roedd yr holl beth yn ddirgelwch.
Aeth Berwyn Williams â ni i gwrdd â swyddogion yr Orsedd. Roedd golwg ofidus iawn arnyn nhw, yn wir, roedd Gwyndaf [y cyn Archdderwydd a Chofiadur] bron yn ei ddagrau. Ac fe ddatgelwyd y cyfan imi.
Roedd dwy awdl deilwng yn y gystadleuaeth, ond roedd awdur un o'r ddwy awdl wedi torri un o reolau mwyaf sylfaenol yr Eisteddfod. Pan agorwyd yr amlen a gynhwysai enw a chyfeiriad y bardd buddugol, cafwyd mai R Lewis Jones oedd y bardd buddugol, a'i fod yn byw yn Hwlffordd. Codwyd amheuon prif swyddogion yr Orsedd yn syth.
Ni chlywsant erioed sôn am R Lewis Jones, ac aeth Gwyndaf yr holl ffordd i Hwlffordd i chwilio amdano.
Perthynas i Dic Jones a oedd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw yn Hwlffordd. Yn awr, roedd Dic Jones yn aelod o'r pwyllgor a fu'n dewis y testun a'r beirniaid.
Rhag ofn na allai ennill trwy deg, meddai Gwyndaf, roedd yn barod i ennill trwy dwyll. Y broblem fwyaf oedd y ffaith fod Dic wedi bod â rhan flaenllaw yn y gwaith o ddewis beirniaid a thestunau.
Felly, os nad oeddwn i yn barod i dderbyn y Gadair, byddai'n rhaid ei hatal, a difetha'r Eisteddfod yn llwyr, a honno'n Eisteddfod mor allweddol bwysig, yn Eisteddfod hanesyddol yn wir.
Ond aeth yn Eisteddfod hanesyddol am resymau gwahanol i'r hyn a ddisgwylid. Ceisiodd Gwyndaf ddarbwyllo Janice y byddai Cadair urddasol Eisteddfod Aberteifi yn edrych yn wych yn ein cartref!
Derbyn y Gadair
Cymerais ddeuddydd i feddwl am y sefyllfa. Roeddwn wedi trefnu i gyfarfod â swyddogion yr Orsedd fore dydd Iau'r Eisteddfod. Daeth Janice a Gareth Maelor, fy nghyfaill a'm gweinidog, gyda ni, i sicrhau tegwch.
Dywedais wrthyn nhw fy mod yn fodlon derbyn y Gadair, er mwyn yr Eisteddfod, nid er fy mwyn fy hun. Gallwn ennill y Gadair eto yn y dyfodol rywbryd, heb ddim helynt o'i chwmpas, yn enwedig gan mai ar ôl 1976 y dechreuodd fy ngwaith aeddfedu.
Ond derbyn y Gadair a wnes, er gwell neu er gwaeth, er gwell o safbwynt yr Eisteddfod, efallai, ond er gwaeth o'm safbwynt i fy hun.
Dic yn ddi-edifar
Mewn cyfweliad teledu ar ôl y seremoni mi wnaeth Dic Jones gydnabod ei fod e "yn dechnegol" wedi torri'r rheolau ond mynnodd nad oedd e wedi cael mantais annheg. Dywedodd nad oedd yn difaru yr hyn a wnaeth e.
"Mae'r rheolau wedi eu llunio i sicrhau nad yw hi'n bosib i aelodau pwyllgorau ac ati ennill mantais annheg pan ddaw hi i ddewis testunau a beirniaid y cystadlaethau," meddai.
"Doedd gen i ddim dylanwad o gwbl. Do'n i ddim yn gallu dewis y testun na dewis y beirniaid. Dwi ddim yn teimlo fy mod i felly wedi torri 'ysbryd y rheolau'."
Dywedodd nad oedd e wedi dechrau ysgrifennu'r gerdd tan fis Mawrth 1976 a'i fod wedi sylweddoli ei bod hi'n awdl dda ac yn deyrnged i Alun Cilie, y bardd a'r amaethwr ddysgodd y gynghanedd iddo.
"Pa le gwell na'r Eisteddfod i anrhydeddu cyfraniad Alun?" meddai.
"Mae Eisteddfod Aberteifi ar ei hennill, mae hi wedi cael cyhoeddusrwydd a mae hi wedi cael dwy awdl dda, mwy na fedrwch chi ei ddweud am sawl Steddfod arall."
Mae 'na 50 mlynedd ers i Dic Jones ennill y Gadair gyda'i awdl 'Y Cynhaeaf' yn Eisteddfod Gendlaethol Aberafan 1966. Bydd y gerdd yn cael ei thrafod yn Cynhaeaf Dic yr Hendre, BBC Radio Cymru, Dydd Gwener, 12 Awst, 12:00