Cymru i ddechrau ymgyrch 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Stadiwm Dinas Caerdydd fydd cartref tîm pêl-droed Cymru ar gyfer eu tair gêm gyntaf yn ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau na fydd y tîm cenedlaethol yn symud o'r stadiwm am y tro.
Roedd y rheolwr, Chris Coleman, wedi wfftio'r syniad o symud i Stadiwm y Principality yn dilyn awgrym y gallai hynny ddigwydd gan Brif Weithredwr y gymdeithas.
Yn ôl Jonathan Ford roedd defnyddio'r safle yng nghanol y brifddinas, sy'n dal 72,000 o gefnogwyr, yn opsiwn.
Ond mae cadarnhad erbyn hyn y bydd y gemau yn erbyn Moldova, Georgia a Serbia yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sy'n dal 33,000.
Dyw'r gymdeithas heb gadarnhau ble fydd y gemau yn erbyn Awstria a Gweriniaeth Iwerddon yn cael eu cynnal.
Mae Ford wedi dweud y bydd Cymru'n chwarae gêm yn Stadiwm y Principality cyn i'r lleoliad gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017.
Ond mae wedi awgrymu hefyd y gall honno fod yn gêm gyfeillgar.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yng nghartref rygbi Cymru oedd yn erbyn Lloegr yn 2011, gan golli o 2-0.
Bydd tîm Chris Coleman yn dechrau gemau rhagbrofol 2018 yn erbyn Moldova ar 5 Medi cyn wynebu Georgia ar 9 Hydref a Serbia ar 12 Tachwedd.