Gemau'r Gymanwlad ddim am ddod i Gymru yn 2026

  • Cyhoeddwyd
ken skates

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn Nghymru yn 2026.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Economi, mae'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi creu "ansicrwydd ariannol".

Mae Ken Skates yn dweud y byddai'r gost "rhwng £1.32bn a £1.54b", swm a fyddai'n "ymrwymiad ariannol ychwanegol anferth" dros dymor tri Chynulliad.

Y tro diwethaf i Gymru gynnal y gemau oedd yn 1958, pan oedden nhw'n cael eu hadnabod fel Gemau'r Ymerodraeth.

Mae Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad wedi dweud ei fod wedi ei "ryfeddu" gan y ffigyrau sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, gan ddweud mai £543m oedd cost Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.

'Ymrwymiad ariannol anferth'

Dywedodd Mr Skates: "O gofio'r costau mawr, y ddealltwriaeth y byddai Cymru gyfan yn llai tebygol o gael ei gefnogi a'r ansicrwydd ariannol yn sgil y bleidlais i adael yr UE, rydym wedi penderfynu'n anfoddog na fyddai'n ymarferol cynnig i gynnal Gemau'r Gymanwlad 2026.

"Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â Gemau'r Gymanwlad Cymru, Chwaraeon Cymru ac eraill wedi gweithio'n galed i ystyried ymarferoldeb cynnig am Gemau'r Gymanwlad 2026.

"Mae'r gwaith hwnnw wedi cynnwys cloriannu manteision, buddiannau, risgiau, heriau a chostau gwneud cynnig o'r fath, yn ogystal ag ystyried amrywiaeth o fodelau ar gyfer cynnal y Gemau.

"Y model roedd Llywodraeth Cymru'n ei ffafrio oedd y cynnig 'Cymru gyfan' a fyddai wedi dod â buddiannau'r Gemau i Gymru gyfan.

"Rydym bellach wedi ystyried yr astudiaeth, sy'n nodi y gallai'r cynnig Cymru gyfan gostio rhwng £1.32bn a £1.54bn.

"Byddai'r costau hynny'n golygu ymrwymiad ariannol ychwanegol anferth i Lywodraeth Cymru dros dymor tri Chynulliad."

Beirniadaeth

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AC: "Mae hyn yn hynod o siomedig ac mae'n eithaf pathetig fod Llywodraeth Cymru unwaith eto yn ceisio defnyddio Brexit fel esgus i guddio diffyg uchelgais a dychymyg."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru: "Mae buddsoddi mewn chwaraeon yn hanfodol i iechyd y wlad. Yn anffodus, wrth fethu a chydnabod hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhwydo'r bêl i'w gôl ei hun".