Lle-tŷ?

  • Cyhoeddwyd

Dydy aros mewn lle gwely a brecwast ddim yn beth anarferol, ond mae gwefan Airbnb wedi llwyddo i drawsnewid y diwydiant yn llwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ers ei sefydlu yn San Francisco yn 2008, mae'r safle wedi mynd o nerth i nerth, fel platfform i bobl allu rhentu stafelloedd neu hyd yn oed dai cyfan am noson neu fwy.

Yn hytrach na chwilio drwy lyfrau ffôn neu gyfeirlyfrau fel yn y dyddiau a fu, mae hi'n hawdd iawn i chwilio am rhywle i aros unrhywle yn y byd. Ac nid perchnogion lleoedd gwely a brecwast traddodiadol yw'r unig rai i fanteisio ar hyn - mae yna gynnydd hefyd ymlith aelodau'r cyhoedd sydd yn rhentu eu hystafell sbâr i westeion er mwyn gwneud ychydig o bres poced.

Ffynhonnell y llun, Airbnb

Mae Catherine Sellwood a'i gŵr, Rhys, wedi bod yn hysbysebu'r stafell sbâr yn eu cartref yng Nghaerdydd ar y safle ers dros flwyddyn. Catherine fu'n egluro wrth Cymru Fyw sut ddigwyddodd hyn:

"Dechreuais i ddefnyddio Airbnb rhyw bedair blynedd yn ôl pan es i i'r Eidal. Mewn gwirionedd, doedd y profiad cyntaf ddim yn dda iawn. Bai'r gyrrwr oedd e'n bennaf am nad oedd e yn gwybod ei ffordd o amgylch Milan a phan gyrhaeddon ni ben y daith, buon ni'n aros mewn lle bach, authentic Eidalaidd, gydag arogl nwy a matras anghyfforddus llawn lwmpiau... Ond, roedd yr holl broses fwcio wedi bod mor hawdd, felly er hyn i gyd - I was hooked.

Ffynhonnell y llun, Catherine Sellwood

"Rhyw 18 mis yn ôl penderfynodd fy ngŵr a fi rentu ein hystafell sbâr. Mewn gwirionedd y prif reswm oedd cael arian ychwanegol, ond dwi'n mwynhau cyfarfod â phobl newydd hefyd, ac mae Airbnb bendant yn rhoi cyfle i chi gyfarfod â llu o bobl amrywiol, ac yn rhoi cyfle i ti siarad â phobl bydde ti byth yn siarad 'da fel arfer.

"Ry'n ni wedi bod yn ffodus iawn, ac mae pawb wedi bod yn barchus o'n cartref a dy'n ni ddim, hyd yn hyn, wedi cael unrhyw broblem. Ry'n ni wedi cyfarfod â phobl o bob rhan o'r byd sydd yn cael eu denu i Gaerdydd am amrywiaeth o resymau.

"Mae'r mwyafrif yn dod i ymweld â Chaerdydd, neu yn dod i ddigwyddiad, felly dydyn ni ddim yn gweld llawer arnyn nhw. Yn ddiweddar cawsom gwpl wnaeth hedfan o Israel i Gaerdydd am un noson i ymweld â'r 'Doctor Who Experience'!

"Y peth anoddaf am Airbnb, yw disgwyliadau amrywiol pobl. Mae rhai yn disgwyl safonau gwesty, ac yn disgwyl llawer am eu arian, ac nid dyna'r profiad rydyn ni'n ei gynnig. Ond, mae rhai yn hapus i weld bod yr ystafell yn bodoli o gwbl a bod y dillad gwely yn lân! Dros y 18 mis diwethaf rydyn ni wedi rhoi llety i bobl o dros 80 o wledydd gwahanol ar draws y byd ac wedi cyfarfod â 150 o westeion gwahanol ac wir yn mwynhau'r profiad."

Caerdydd ar y blaen

Yn ôl ffigyrau gan Airbnb, y lle yng Nghymru sydd â'r cynnydd mwyaf yn y nifer o lety ar gael yw Caerdydd, gyda chynnydd o 360% rhwng Mai 2015 a Mai 2016. Nid yw hyn yn syndod mawr. Gwelodd y brifddinas filoedd ar filoedd o ymwelwyr yn heidio yno dros gyfnod Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd, ac fe fanteisiodd llawer o drigolion yr ardal ar hyn drwy osod stafelloedd i'r ffans.

Unwaith rydych chi wedi cofrestru â'r safle, peth rhwydd yw i rentu'r ystafell allan dros gyfnod digwyddiadau eraill, megis y Chwe Gwlad, Speedway neu gig Beyoncé (neu Barry Manilow!).

Caerdydd yw'r ardal yng Nghymru sydd hefyd wedi denu y nifer fwyaf o ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda 35,000 wedi defnyddio'r safle i ddod o hyd i lety yno. Ardal canolbarth Cymru a Sir Henffordd yw'r nesaf ar y rhestr, gyda 25,000 o ymwelwyr, a daeth 16,000 o ymwelwyr i weld prydferthwch Eryri.

Teithio dramor

Mae cynnydd hefyd yn nifer y Cymry sydd yn defnyddio'r wefan er mwyn dod o hyd i lety dramor. Mae Lowri Llewelyn a'i chariad, Rhodri, newydd ddychwelyd i'w cartref yng Nghaerdydd yn dilyn cyfnod o dros dri mis yn teithio yn India, Sri Lanka, De Corea a Japan. Mae Lowri wedi defnyddio Airbnb i drefnu llety ers blynyddoedd:

"Dwi wrth fy modd yn defnyddio Airbnb gan bod y profiadau wastad mor wahanol i'w gilydd, ac mae'n gyfle da i siarad gyda phobl lleol sydd bob tro i weld mor angerddol a pharod i'ch dysgu am eu hardal.

"Mae hefyd yn galluogi rhywun i ddod ar draws ardal na fyddai fel arfer yn cael ei hysbysu mewn llyfr teithio a chael gweld pobl lleol yn byw eu bywydau bob dydd - profiad gwahanol i beth fuasai chi'n ei gael mewn gwesty mawr drws nesaf i'r orsaf drên fwyaf!

Ffynhonnell y llun, Lowri Llewelyn

"Hefyd, mae modd cael dipyn mwy am dy arian a llefydd efo 'chydig o gymeriad pan yn defnyddio Airbnb. 'Da ni wedi aros mewn llety unigryw dros y blynyddoedd - llety cwbl wahanol i'r arfer.

"Yr un mwyaf cofiadwy, maen siŵr oedd yr adeg pan wnaethon ni aros mewn hen dŷ colonial crand yn Granada, Nicaragua oedd ag ystafelloedd gyda tho, ond dim waliau. Roedd yr adeilad yma drws nesaf i glwb nos, felly chawson ni fawr o gwsg y noson honno!

"'Da ni hefyd wedi aros mewn hen felin ddŵr yn Tallinn, Estonia oedd efo'r sauna lleiaf erioed yn rhan o'r lle - perffaith ar ôl diwrnod oer yn crwydro'r ddinas fis Rhagfyr. O, a 'da ni hefyd wedi aros ar houseboat tra'n Amsterdam - a'i rannu gyda chwpl arall o Frasil! Roedd hwnna'n dipyn o hwyl hefyd!

"Ar ddiwedd ein cyfnod o deithio yn Asia, roedd rhaid mynd i Ffrainc i weld Cymru yn chwarae, wrth gwrs. Fe wnaeth Rhodri a'i ffrind ddefnyddio Airbnb pan oedd Cymru yn chwarae'n erbyn Lloegr yn Lens. A phan ddychwelon nhw'n ôl i'r tŷ, daeth y perchennog atyn nhw gyda chwrw lleol i godi eu calonnau ar ôl i Gymru golli!

"'Da ni wedi bod yn lwcus iawn, mae pob profiad wedi bod yn dda i ni hyd yn hyn - a dwi methu aros i ddechrau edrych ble allwn ni fynd nesa...!"