Steddfod a sticeri
- Cyhoeddwyd
Oeddech chi'n arfer treulio wythnos gyntaf mis Awst yn cystadlu efo'ch ffrindiau am y gorau i gasglu'r celc mwyaf o fathodynnau, sticeri, beiros a hetiau papur o faes yr Eisteddfod Genedlaethol?
Os felly, llongyfarchiadau, roeddech chi'n eisteddfotwr ifanc, profiadol!
Efallai eich bod chi'n berchen ar lyfr llofnodion hefyd a marciau bonws os buoch chi'n mynd rownd y Maes yn gwerthu'r Daily Post, Western Mail neu Golwg i ennill ychydig o bres gwario - digon i fynd i nôl ysgytlaeth ffrwchnedd o'r stondin laeth o bosib...
Mae Cymru Fyw wedi bod yn tyrchu yn yr atig am rai o'r eitemau y gallai plentyn ei gasglu yn ei fag-plastig-am-ddim o bebyll gwahanol sefydliadau yn y Steddfod ers talwm. Ydyn nhw'n procio'r cof? Cysylltwch os oes gennych chi ychwanegiad i'r casgliad: cymrufyw@bbc.co.uk
• Mwy o straeon yr Eisteddfod ar BBC Cymru Fyw, dolen allanol