Talwrn y Beirdd: Y Ffoaduriaid yn ennill am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Yn rownd derfynol Talwrn y Beirdd, Y Ffoaduriaid ddaeth i'r brig a hynny am y tro cyntaf ers iddyn nhw fod yn cystadlu.
Criw o ffrindiau sydd yn byw yng Nghaerdydd yw'r Ffoaduriaid sydd yn cynnwys Gwennan Evans, Gruffudd Owen, Casia Wiliam a Llŷr Gwyn Lewis. Mae Gwennan Evans a Gruffudd Owen yn gwpl priod.
Aberhafren oedd y tîm arall yn y ffeinal. Roedd hi'n gystadleuaeth agos gyda phwynt yn gwahanu'r beirdd.
Fe enillodd Gwennan Evans dlws Cledwyn hefyd ar gyfer telyneg orau'r gyfres a cyflwynwyd Tlws Coffa Dic yr Hendre sef y wobr ar gyfer cywydd gorau'r gyfres i Tegwyn Pughe Jones.
Dywedodd Meuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones: "Llongyfarchiadau mawr i'r Ffoaduriaid, am y tro cyntaf yn eu hanes yn enillwyr y gyfres."
Cyfeiriodd at y ffaith fod Gwennan Evans a Gruffudd Owen wedi penderfynu peidio mynd i briodas ffrind er mwyn medru dod i gystadlu yn y Talwrn: "Odd e werth i Gruffudd a Gwennan beidio mynd i'r briodas yn Llanbed. Ac fe gewn nhw fynd nawr i'r parti nôs a dathlu'n gered!"
Wrth gyfeirio at dîm Aberhafren canmolodd y beirdd "am eu disgleirdeb ar hyd y gyfres."