Arbrawf gorsaf dros dro Radio Cymru Mwy i ddechrau

  • Cyhoeddwyd
BBC Mwy

Bydd gorsaf dros dro Radio Cymru Mwy yn dechrau darlledu arlein ym mis Medi.

Mae disgwyl i'r orsaf, sy'n gynllun peilot, ddarlledu am ychydig dros dri mis tan ddechrau mis Ionawr.

Bydd y pwyslais ar "fwy o gerddoriaeth a hwyl gyda BBC Radio Cymru Mwy yn darlledu yn ystod bore'r wythnos waith".

Bydd yr orsaf yn darlledu trwy gyfrwng gwefan Radio Cymru, radio DAB yn y de ddwyrain, ac ar ap BBC iPlayer Radio.

Rhaglen 'fyrlymus'

Yn ôl BBC Radio Cymru bydd amserlen yr orsaf newydd yn cynnwys "sioe frecwast fyrlymus" fydd yn cychwyn y darlledu am 07:00.

Y bwriad yw parhau tan o leiaf 12:00, ac arbrofi o bryd i'w gilydd gyda darllediadau dros ginio.

Bydd y cynllun peilot yn dod i ben ar 2 Ionawr 2017, 40 mlynedd union ers noswyl lansio Radio Cymru yn 1977.

Ni fydd unrhyw newidiadau i raglenni boreol BBC Radio Cymru.

Betsan Powys
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Betsan Powys, golygydd Radio Cymru, bydd yr orsaf yn cynnig mwy o ddewis i wrandawyr

Yn ôl Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Mae'r enw BBC Radio Cymru Mwy yn dweud y cyfan, mwy o gerddoriaeth, mwy o chwerthin a mwy o ddewis i wrandawyr BBC Radio Cymru.

"Wrth i Radio Cymru agosáu at y pen-blwydd mawr yn ddeugain oed yn 2017, mae'n holl bwysig ein bod ni'n parhau i arloesi a thorri tir newydd.

"Mae'r orsaf dros dro yn gyfle i ni fanteisio ar y dechnoleg newydd ond yn bwysicach mae'n gyfle i wrandawyr fwynhau mwy o ddewis yn ogystal â gwrando ar gynnyrch BBC Radio Cymru mewn ffyrdd newydd.

"A hyn oll heb ddieithrio gwrandawyr ffyddlon BBC Radio Cymru fydd yn parhau i wrando yn yr un modd."

Yn ôl BBC Cymru bydd cyfleoedd hefyd i "gydweithio gyda phartneriaid i feithrin lleisiau newydd a manteisio ar ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy'n rhoi'r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, gan gynnwys artistiaid Cymraeg".