UKIP: Ymgais i ddiarddel Nathan Gill
- Cyhoeddwyd
Mae'r pwyllgor sy'n rheoli UKIP wedi dweud y dylai eu harweinydd yng Nghymru gael ei ddiarddel o'r blaid os yw'n gwrthod rhoi'r gorau i un o'i swyddi etholedig.
Fe etholwyd Nathan Gill yn Aelod Seneddol Ewropeaidd yn 2014 ac ers mis Mai eleni mae wedi cynrychioli UKIP yn y Cynulliad hefyd.
Mae'r blaid yn awyddus iddo ildio un o'r swyddi, ac wedi hawlio bod Mr Gill wedi addo gwneud hynny ar un adeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Mr Gill eu bod yn "bryderus iawn ynglŷn â'r gorchymyn".
Dywedodd y llefarydd: "Dyw'r gorchymyn ddim yn ddilys.
"Fe fyddai hyn yn achosi isetholiad [ar gyfer Aelod Seneddol Ewropeaidd] a allai gostio £5m i'r trethdalwr, ar gyfer swydd sydd yn dirwyn i ben cyn bod hir beth bynnag."
Mae Mr Gill wedi bod o dan bwysau cynyddol gan ei blaid, ac mae Cadeirydd UKIP yng Nghymru wedi dweud y dylai gamu o'r neilltu oherwydd yr helynt.
Dywedodd Mr Gill ddydd Sul fod y rhai oedd yn galw arno i gamu o'r neilltu yn gwneud hynny oherwydd "malais".