Datgelu mwy am ganolfan 'arloesol' S4C, Yr Egin
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi datgelu dyluniadau diweddaraf Canolfan S4C Yr Egin mewn digwyddiad ar stondin y Brifysgol yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau ddydd Mawrth.
Mae'r Brifysgol bellach wedi cyflwyno'r cais cynllunio ar gyfer y datblygiad i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Roedd cyfle ar y maes ddydd Mawrth i glywed mwy am y cynllun yn ogystal â gweld model 3D o'r adeilad.
Yn ôl Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol y Drindod Dewi Sant "bydd ardrawiad economaidd Canolfan S4C Yr Egin yn arwyddocaol gan gyfrannu dros £11m i'r economi leol yn flynyddol."
Y gobaith yw y bydd y ganolfan, fydd yn agor yn 2018, yn trawsnewid y diwydiannau creadigol yn y de orllewin a thu hwnt.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, fod y cynlluniau i geu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin yn symud gam mawr ymlaen
Mae yna gynlluniau i greu swyddi fel rhan o'r datblygiad gan gynnwys 98 o swyddi newydd o fewn chwe uned ddeor newydd i raddedigion, a 507 o swyddi llawn amser yn y gadwyn gyflenwi. Bydd yna ddegau o swyddi yn cael eu hadleoli hefyd, gan gynnwys 55 gan S4C.
Dywed Ian Jones, Prif Weithredwr S4C: "Gyda'r broses gynllunio ar y gweill, a'r penseiri'n cwblhau eu gwaith cychwynnol, mae ein cynlluniau i greu pencadlys newydd i S4C yng Nghaerfyrddin yn symud cam mawr yn nes. "
Ychwanegodd: "Wrth agor pencadlys yn y gorllewin yn 2018, cadw presenoldeb cryf yng Nghaerdydd a swyddfa yng Nghaernarfon, fe fydd S4C yng nghanol y gynulleidfa ar draws Cymru ac yn meithrin cysylltiadau creadigol agos newydd fydd yn cynnig buddiannau i'r gwasanaeth."

Model 3D o gynllun adeilad yr Egin
Mae'r dyluniad eisoes wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
O ran yr adeilad, mae'r cynllun mewnol wedi'i ganoli o gwmpas cyntedd ac atriwm cyhoeddus sy'n pontio'r tri llawr.
Mae tîm dylunio Canolfan S4C Yr Egin yn bartneriaeth rhwng y cwmni lleol o Gastell Newydd Emlyn, sef ROA a'r cwmni rhyngwladol BDP gyda'r pensaer lleol, Niall Maxwell yn arwain y gwaith.