'Tai yn hanfodol i ddyfodol cymunedau Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
taiFfynhonnell y llun, Google

Fe fydd fforwm drafod yn cael ei gynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ddydd Mercher, i ganolbwyntio ar wneud y cysylltiadau rhwng tai, pobl ifanc a chymunedau Cymraeg.

Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, fydd yn cynnal fforwm, gyda ffigyrau amlwg o feysydd y Gymraeg, pobl ifanc a thai yn cymeryd rhan yn y digwyddiad.

Fe fydd aelodau'r panel yn cynnwys:

  • Sioned Hughes, Prif Weithredydd Urdd Gobaith Cymru,

  • Ruth Richards, Prif Weithredydd Dyfodol i'r Iaith,

  • David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy,

  • Christian Webb, Youth Cymru,

  • Osian Ellis, cynrychiolydd Ble Ti'n Mynd i Fyw.

  • Rhys Evans, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr CHC: "Mae tai yn ymwneud â chymaint mwy na rhoi to dros bennau pobl. Dyma'r glud sy'n cadw cymuned gyda'i gilydd. Er bod y cysylltiadau rhwng iechyd a thai, yr economi, addysg a threchu tlodi yn gyfarwydd iawn, mae cynnal a hybu cymunedau Cymraeg ledled Cymru hefyd yn elfen hanfodol ond llai hysbys o waith y sector.

"Nod fforwm drafod heddiw yw rhannu a llunio syniadau ar sut y gall tai helpu i gynnal cymunedau lleol ymhellach ar gyfer pobl ifanc, yn neilltuol lle mae gan y Gymraeg le canolog."

Meddai David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy: "Mae cadw pobl ifanc a datblygu tai newydd mewn cymunedau Cymraeg yn hollbwysig, nid yn unig i'r gymuned ei hun, ond i Gymru gyfan.

"Ni allwn fforddio caniatáu i'r cymunedau hyn wanhau mwy nag a wnaethant eisoes. Os gwnawn hynny, byddwn yn colli iaith, hanes, diwylliant a cymaint mwy."