Comisiynydd: 'Addysg yw'r allwedd i greu Cymry Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod gwaith ymchwil ei swyddfa yn profi bod addysg yn allweddol i greu siaradwyr Cymraeg.
Ond mae Meri Huws yn rhybuddio bod cryn waith i'w wneud, wrth i ddata yn yr adroddiad ddangos nad oes cynnydd wedi bod yn nifer y plant sy'n cael addysg Gymraeg yn y blynyddoedd diwetha.
Mae data o fewn yr adroddiad yn nodi fod 15.9% o blant Cymru yn cael addysg Gymraeg yn 2010/1. Erbyn 2014/15, roedd y canran fymryn yn is, gyda 15.7% yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng yr iaith.
Roedd y Comisiynydd yn siarad wrth gyhoeddi adroddiad pum mlynedd cyntaf y Comisiynydd mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.
Dim ymddiheuriad
Dywedodd Meri Huws nad oedd yn ymddiheuro am ei phwyslais ar addysg o fewn y gwaith ymchwil a'r data, gan ddweud ei fod yn hollbwysig:
"O ran y gwaith ymchwil - a dyna beth mae'r adroddiad yma'n ei wneud, tynnu ymchwil at ei gilydd, data a thystiolaeth gadarn - yn sicr, addysg yw'r allwedd i greu siaradwyr Cymraeg.
"Dyna lle mae rhan fwyaf - ry ni'n son am tua 80% - o siaradwyr Cymraeg ifanc Cymru'n cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd. Ac felly mae yna sialens fyn'na i gael y broses yna'n iawn, er mwyn sicrhau bod yna ddilyniant.
"Un neges sy'n dod allan yn gryf iawn o'r adroddiad yna, ac eto o'r dystiolaeth, yw mai dysgu o'r blynyddoedd cynnar sy'n mynd i greu Cymry rhugl sy'n hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg yn y dyfodol yn y gweithle.
"Y sialensau sydd gyda ni ar hyn o bryd yw dilyniant. Yn sicr, ry ni'n gweld camu nôl wrth bod pobl yn symud o ysgol gynradd i uwchradd, o uwchradd i ol-16, ry ni'n colli siaradwyr.
"Creu llwybrau sydd ei eisiau, a sicrhau bod yr addysg maen nhw'n dderbyn yn creu siaradwyr hyderus rhugl sydd yn hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwhanol sefyllfaoedd.
"Natur yr addysg, natur y cyd-destun hefyd a dyna pam y mae addysg yn ei gyfanrwydd yn bwysig, nid yn unig y dosbarth ond y gweithgareddau y tu allan i'r dosbarth."
'Adroddiad amserol'
Mae cyhoeddi adroddiad pum mlynedd yn ofyniad statudol o waith y Comisiynydd yn unol â Mesur y Gymraeg 2011.
Dywedodd bod ei gyhoeddi nawr yn amserol o ystyried fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Alun Davies, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar strategaeth newydd o ran y Gymraeg ar y maes ddydd Llun.
Ychwanegodd y byddai'r adroddiad yn rhan o dystiolaeth swyddfa'r Comisiynydd yn y broses ymgynghori ar y strategaeth newydd.
Ac wrth ateb y cwestiwn a oedd blynyddoedd cynta'r Comisiynydd wedi creu mwy o gwestiynau yn hytrach na chynnig atebion, dywedodd fod rol o'r fath wastad yn codi cwestiynau: "Ond ry ni'n gwybod nawr beth yw'r cwestiynau sy'n bwysig, a dwi'n credu mai cwestiynau ynglŷn ag addysg, dilyniant a chreu gweithlu yw'r rhai gwirioneddol bwysig."
Mae modd darllen yr adroddiad ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.