Cyhoeddi Y Cyfansoddiadau ar ei newydd wedd
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfrol 'Cyfansoddiadau a Beirniadaethau' yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chyhoeddi ar ei newydd wedd eleni.
Dywedodd y golygydd newydd, Gwyn Lewis o Gaernarfon, y bydd trefn ychydig yn wahanol i'r gyfrol a gyhoeddir brynhawn Gwener ar Faes y Brifwyl.
Dyma flwyddyn gyntaf Mr Lewis yn golygu'r gyfrol ac mae'n olynu John Elwyn Hughes wedi 30 mlynedd wrth y llyw.
Eleni mae 46 o gystadlaethau wedi eu cynnwys yn y gyfrol, bron i 550 o gystadleuwyr a 53 beirniadaeth.
'Cyfnod newydd'
Dywedodd Mr Lewis: "Mi oedd y 'Steddfod yn awyddus (gyda) cyfnod newydd yn dod, golygydd newydd, bod ni'n mynd i gael dyluniad newydd i'r gyfrol.
"Felly mae'r clawr wedi ei ddylunio o'r newydd a da' ni hefyd wedi sicrhau trefn ychydig yn wahanol i'r gyfrol eleni.
"Dwi ddim yn gwybod sut y bydd hynny'n plesio, ond yn draddodiadol 'da ni wedi bod yn cael y beirniadaethau gyntaf ym mhob cystadleuaeth, a wedyn dod at y darn sydd wedi ennill.
"Er mwyn bod yn driw, efallai, i deitl y gyfrol sef 'Cyfansoddiadau a Beirniadaethau' mi wnaethom ni benderfynu eleni ein bod yn awyddus i gael cyfansoddiad buddugol yn gyntaf ac wedyn y feirniadaeth.
"Da' ni'n dilyn y drefn yna drwy pob un gystadleuaeth."
Safonau iaith
Gofynnwyd i Mr Lewis am safonau'r iaith eleni, a dywedodd: "Dw i'n hapus iawn, iawn efo'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno drwodd a thro gan y beirniaid.
"Dwi wedi gorfod cysoni oherwydd bod ni'n trio cael cysondeb o fewn yr un gystadleuaeth ar draws y gyfrol.
"Mi gewch chi arddulliau gwahanol ond dwi wedi ceisio parchu'r arddull yr oedd y beirniaid wedi 'sgwennu heb orfod newid gormod."