Lansio papur bro digidol newydd yn Y Fenni
- Cyhoeddwyd
Bydd papur bro digidol newydd yn cael ei lansio ddydd Sadwrn ar gyfer pobl ardal Y Fenni.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn rhedeg gwasanaeth Llais y Maes gyda newyddion am y Brifwyl.
Ond fe fydd yr awenau nawr yn cael eu trosglwyddo i drigolion lleol.
Ardal Y Fenni yw un o'r unig rai yng Nghymru heb bapur bro Cymraeg ar hyn o bryd yn ôl Emma Meese, un o gydlynwyr y cynllun.
Poced heb bapur bro
Cafodd prosiect Llais y Maes ei ddatblygu ar y cyd rhwng Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd a'r Eisteddfod dair blynedd yn ôl, fel cyfle i fyfyrwyr newyddiaduraeth feithrin sgiliau newydd.
Eleni mae'r myfyrwyr hefyd wedi bod yn cydweithio ag asiantaeth People Plus Cymru, cynllun Llywodraeth Cymru sydd yn helpu pobl sydd ddim mewn addysg na gwaith.
Y bwriad yw darparu gwasanaeth newyddion digidol ar y maes, gan ddysgu sgiliau newyddiadura symudol wrth ddefnyddio teclynnau fel cluniaduron, ffonau smart ac iPads.
Yn dilyn yr Eisteddfod yn Llanelli ddwy flynedd yn ôl fe gynorthwyodd y Ganolfan wrth sefydlu gwsanaeth newyddion Pobol Dinefwr, a'r bwriad yw gweld rhywbeth tebyg yn deillio o ŵyl Y Fenni.
"Yn Y Fenni mae pobl wedi teimlo ers sbel bod eisiau rhyw fath o ddarpariaeth newyddion cymunedol Cymraeg, achos mae'n un o'r pocedi bach yng Nghymru sydd heb bapur bro o gwbl," esboniodd Emma Meese, rheolwr y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol.
"Felly beth ni'n ei wneud yw trosglwyddo Llais y Maes draw i'r gymuned ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw.
"Mae'n bwysig iawn i ni fel prifysgol a'r Eisteddfod edrych ar y gwaddol, beth ni'n gadael yn yr ardal, ac mae hwn yn rywbeth positif iawn i wneud."
'Digon o frwdfrydedd'
Mae'n golygu mai yn nwylo'r trigolion lleol fydd dyfodol y wefan ar ôl i'r Brifwyl ymadael â'r dref, gydag ysgrifennydd y pwyllgor gwaith Eirwen Williams yn cydlynnu'r cyfan.
"Mae amryw o bobl sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod a'r Eisteddfod i'r ardal nawr yn edrych tua'r dyfodol, a beth fyddwn ni'n ei wneud fydd trosglwyddo'r cysylltiadau a'r wefan iddyn nhw," meddai Emma Meese.
"Dyma fydd geni 'Pobol Y Fenni'."
Ychwanegodd Emma Meese y byddai hi a'r Ganolfan yn parhau i ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i'r bobl newydd fydd yn gyfrifol am y papur bro newydd.
"Mae digon o frwdfrydedd yna, dyna'r peth pwysicaf, mae'r awydd i'w wneud e," meddai.