Streic bysus i gael effaith ar deithwyr yn y de a'r gorllewin

BwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae First Cymru yn rhedeg bron i 100 o lwybrau o amgylch de a gorllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd

Gall teithwyr bws wynebu trafferthion ar draws de a gorllewin Cymru o ddydd Iau, wrth i anghydfod dros gyflog arwain at streiciau bysiau.

Mae aelodau o staff First Cymru sydd hefyd yn rhan o undeb Unite, wedi cychwyn ar streic pedwar diwrnod, ar ôl gwrthod cynnig cyflog diweddaraf y cwmni bysiau.

Yn ôl Unite, mae'r gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu twyllo gydag arian annigonol, gan honni fod First Cymru eisoes yn talu "rhai o'r cyflogau isaf yn y diwydiant".

Mae First Cymru yn dweud eu bod "wedi gwrando" ar yr undeb a bod eu "drws yn parhau ar agor i drafod".

Gyda bron i 100 o lwybrau o amgylch de a gorllewin Cymru, mae First Cymru yn gwmni adnabyddus am eu gwasanaethau First Bus.

Fel sy'n cael ei amlygu ar eu gwefan, maen nhw'n cwmpasu ardaloedd "o Ddoc Penfro i Gaerdydd a bron i bob man rhyngddyn nhw".

Mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau gydag Unite dros gynnig cyflog teg i'w gweithwyr.

Cafodd streic a oedd wedi'i threfnu ar gyfer 22 Hydref ei gohirio, wrth i aelodau Unite obeithio am ddatblygiad.

Ond er gwaethaf trafodaethau helaeth, mae Unite yn dweud fod aelodau First Cymru wedi cael eu gadael i deimlo'n "gynddeiriog".

Maen nhw hefyd wedi gwrthod y cynnig cyflog diweddaraf gan y cyflogwr - un oedd, yn ôl yr undeb, yn "parhau i atal ôl daliadau i'w haelodau".

'Osgoi rhoi ôl-dâl i weithwyr'

Mewn ymateb, mae aelodau wedi cyhoeddi pedwar diwrnod o streicio rhwng 30 Hydref a 2 Tachwedd.

Yn ogystal, mae pedwar diwrnod arall o streicio wedi'u cyhoeddi ar gyfer 5-8 Tachwedd, gydag aelodau yn datgan parodrwydd i ddwysau'r anghydfod gyda chamau pellach trwy gydol cyfnod y Nadolig.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: "Mae First yn euog o geisio osgoi rhoi ôl-dâl i weithwyr sydd gyda hawl iddo, a hynny er mwyn llenwi ei bocedi ei hun.

"Mae ein haelodau wedi gwrthod y cynnig diweddaraf sy'n eu hatal rhag cael cyfiawnder cyflog."

Sharon GrahamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sharon Graham fod gan weithwyr "gefnogaeth lawn Unite drwy gydol yr anghydfod"

Mae'r undeb yn honni bod First Cymru yn talu staff newydd gyda chyflog is am 12 mis, gan greu gweithlu dwy haen sy'n achosi "anhapusrwydd ymysg staff".

Fe ddywedon nhw fod y rhwydwaith trafnidiaeth First Group - grŵp y mae First Cymru yn rhan ohono - wedi gwneud £200m mewn elw yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda'r prif weithredwr yn derbyn cyflog o dros £3m.

"Mae'r cyhoeddiad am y cynnydd yn y 'cyflog byw go iawn' ar gyfer 2026 i £13.45, wedi dangos i weithwyr fod eu cyflogwr yn tanbrisio eu rolau'n llwyr," meddai'r undeb.

Nododd yr undeb hefyd bod gweithwyr First Bus yng Nghymru £3 yr awr yn dlotach na'u cydweithwyr o dan yr un cwmni ym Mryste.

'Cael effaith ar ein cwsmeriaid'

Mewn ymateb, dywedodd First Cymru eu bod wedi gwrando ar adborth aelodau Unite trwy gydol y broses helaeth o drafod.

Dywedon nhw eu bod hefyd wedi gwneud "sawl cynnig" i geisio datrys yr anghydfod, i sicrhau nad yw cwsmeriaid sy'n dibynnu ar y gwasanaethau yn cael eu heffeithio gan y streicio.

"Yn anfoddus, yn hytrach na gweithio gyda ni i ddod o hyd i ddatrysiad, mae Unite penderfynu parhau â'r streicio, gan gael effaith ar ein cwsmeriaid," meddai llefarydd.

"Mae ein drws yn parhau ar agor ar gyfer trafodaethau ac rydym yn parhau i geisio canfod datrysiad."

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan First Cymru, ynglŷn â pha wasanaethau fydd yn cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.

Hyd yma, mae nifer o wasanaethau yn rhedeg ar amserlenni llai, gyda rhai gwasanaethau'n annhebygol o weithredu o gwbl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig