Yr Orsedd yn urddo aelodau newydd yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Gorsedd
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd yn gorymdeithio drwy'r maes yn gynharach

Mae 31 o aelodau newydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd yn yr Eisteddfod ddydd Gwener.

Yn eu plith roedd cyn actor Pobol y Cwm, Gwyn Elfyn, 'Y Dyn Jazz' Wyn Lodwick, a chyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Jones.

Cafodd Elin Maher, a sefydlodd Menter Casnewydd, a Dafydd Meirion Roberts, prif weithredwr cwmni recordio Sain, hefyd eu hanrhydeddu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Gwyn Elfyn yn adnabyddus am bortreadu cymeriad 'Denzil' yn Pobol y Cwm

Bwriad yr Orsedd yw anrhydeddu unigolion am eu "cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol".

"Roedd hi'n brofiad wnai fyth anghofio, bendigedig," meddai Emyr Wyn Jones wrth BBC Cymru Fyw yn dilyn y seremoni.

"Dw i mor falch o gael yr anrhydedd yma, dw i'n ei ystyried yn anrhydedd aruthrol."

Un arall i gael ei hurddo oedd Sue Roberts, sydd wedi bod yn gydlynydd i'r Cylch Catholig ers ugain mlynedd gan hybu'r Gymraeg yn yr Eglwys. Dywedodd ei bod hi'n bwysig cydnabod cyfraniad pobl o bob maes.

"Mae'n hynod o bwysig mai nid jyst rhywbeth academaidd [yw'r Orsedd]. Mae lot fawr iawn o bobl yn gweithio'n galed yn eu cymunedau, a dw i'n meddwl mai dyma'r fraint fwyaf y gall Cymru roi i unrhyw un."

Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd Geraint Llifon

Ymhlith yr unigolion eraill i gael eu hurddo roedd Roger Boore, a sefydlodd Gwasg y Dref Wen, y cyn Aelod Cynulliad, Gwenda Thomas, a'r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts.

Fe gododd ffrae eleni ar drothwy'r Eisteddfod ar ôl i'r Archdderwydd Geraint Llifon bwysleisio na fyddai'r rheol ar fedru'r Gymraeg yn newid.

Ac fe ddywedodd Liz Saville Roberts ei bod hi'n deall safbwynt yr Archdderwydd.

"Mae angen gwneud yn siwr bod 'na lefydd penodol i'r Gymraeg," meddai.

"Wedi dweud hynny, dw i'n meddwl bod 'na le i drafod yng Nghymru am sut 'dan ni'n cydnabod digwyddiadau mawr i'r genedl, yn y naill iaith neu'r llall, a dw i'n meddwl bod y drafodaeth yna i barhau."

Disgrifiad o’r llun,

Tair cenhedlaeth o'r un teulu - Annette Hughes, Efa ac Elin Maher, gafodd ei hurddo heddiw

Mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Y Wisg Las.

Mae'r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r celfyddydau.

Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad, neu sydd â gradd gymwys ym maes llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd.

Mae enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gymwys.

Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i'r Wisg Wen.

Mae rhestr lawn o'r rhai sy'n cael eu derbyn i'r orsedd ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, dolen allanol.