Sŵnami yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Sŵnami sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau.
Daeth albwm cyntaf y band, sydd hefyd â'r teitl 'Sŵnami', i'r brig yn erbyn naw o artistiaid eraill.
Dyma'r trydydd tro i'r Eisteddfod gynnig y wobr, gyda Gareth Bonello yn cipio'r tlws yn 2014 a Gwenno yn fuddugol y llynedd.
I gael eu hystyried ar gyfer y wobr eleni, roedd yn rhaid i'r albwm gael ei gyhoeddi rhwng 1 Mawrth 2015 a diwedd mis Ebrill eleni.
'Hollol wallgo'
Yn derbyn y wobr yng Nghaffi Maes B ddydd Gwener, dywedodd prif leisydd y band, Ifan Sion Davies: "Oedden ni ddim yn disgwyl hyn o gwbl, mae'n hollol wallgo'."
Ychwanegodd Gruff Jones o'r band: "Roedd hi'n albwm hir-ddisgwyliedig - oedden ni am oesoedd yn ei hysgrifennu. Mae mor cŵl bod pobl eraill yn ei licio fo cymaint."
Roedd y band hefyd yn awyddus i ddiolch i'w label I KA CHING, gan ddweud ei bod yn "grêt cael rhywun mor gefnogol a threfnus fel rhan o'r tîm".
Unigolion o'r diwydiant cerddoriaeth oedd wedi llunio'r rhestr fer, a'r artistiaid eraill ar y rhestr eleni oedd 9 Bach, Alun Gaffey, Band Pres Llareggub, Brython Shag, Calan, Cowbois Rhos Botwnnog, Datblygu, Plu, Sŵnami a Yucatan.
Dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan: "Roedd gennym restr fer hynod eclectig eleni, gyda phob math o genres cerddorol yn cael eu cynrychioli. A braf oedd cael cyfle i drafod yr albymau gyda phanel mor eang, sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
"Mae albwm Swnami wedi creu argraff eleni'n bendant. Mae'r caneuon i gyd yn hynod boblogaidd eu naws ac yn apelio at gynulleidfa eang iawn.
"Dyma albwm bop sy'n llwyddo i bontio'r cenedlaethau, sy'n rywbeth eithaf prin. Mae Swnami wedi llwyddo i greu cyfanwaith sy'n apelio at bobl o bob oed."
Yr enillydd cyntaf ddwy flynedd yn ôl oedd The Gentle Good am albwm cysyniadol arall, Y Bardd Anfarwol, albwm a ysbrydolodd Wyn Mason gyda'r ddrama Rhith Gân, a enillodd y Fedal Ddrama y llynedd, ac sydd wedi'i pherfformio yn nosweithiol yn yr Eisteddfod eleni.
Y beirniaid eleni oedd Casi Wyn, Dwynwen Morgan, Elan Evans, Sioned Webb, Elliw Iwan, Siôn Llwyd, Gwion Llwyd, Ifan Dafydd a Richard Rees, a daeth y panel ynghyd ar Faes yr Eisteddfod ddydd Iau i drafod y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth.