Edrych 'mlaen at Eisteddfod Sir Fôn 2017

  • Cyhoeddwyd
Ynys MônFfynhonnell y llun, Getty Images

Gyda Phrifwyl Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ben, mae golygon Eisteddfodwyr yn troi tuag at Sir Fôn y flwyddyn nesaf.

Cadeirydd y pwyllgor gwaith ar gyfer Eisteddfod Sir Fôn yw'r Athro Derec Llwyd Morgan - bardd, beirniad llenyddol a chyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd wrth Cymru Fyw:

"Un o'r manteision mawr sydd gennym ni ym Môn ydi bod gennym ni gynifer sy'n awyddus i weithio," meddai.

"Mae Sir Fôn yn un o'r ychydig siroedd lle mae mwyafrif y bobl yn siarad Cymraeg ac mae miloedd lawer o bobl sy'n deall beth yw Eisteddfod ac yn mwynhau'r diwylliant.

"Oherwydd hynny, does dim problem o gwbl wedi bod wrth godi pwyllgorau pwnc na phwyllgorau apêl.

"Yr hyn sydd wedi rhoi pleser mawr i mi yw bod cynifer o bobl ifanc wedi ymgymryd â swyddi - cadeirydd, is-gadeirydd, ysgrifennydd - y pwyllgorau pwnc. Mae fel bod to newydd o bobl yn gwirioni ar gael trefnu."

Disgrifiad o’r llun,

Derec Llwyd Morgan ydi Cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Môn

Yr AC lleol

Bydd Aelod Cynulliad Môn, Rhun ap Iorwerth yn un o lywyddion anrhydeddus yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

"Mae hi'n 33 o flynyddoedd ers i mi gymryd rhan ym mhasiant y plant yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1983," meddai.

"Mae Eisteddfod arall wedi bod yn Ynys Môn ers hynny a rŵan dwi'n dad i blant sydd tua'r un oed ag oeddwn i 'nol yn 1983.

"Dwi'n gallu gweld y cyffro sydd 'na ymysg y to yna rŵan fel yr o'n i wedi cyffroi bryd hynny am gael yr Eisteddfod yn ein patch ni."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd AC Môn, Rhun ap Iorwerth yn un o lywyddion anrhydeddus Eisteddfod 2017

Eifion Lloyd Jones fydd Llywydd Llys yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf, wrth i gyfnod tair blynedd Garry Nicholas ddod i ben eleni.

"Mae Môn yn andros o werthfawr ei chyfraniad," meddai.

"Mae hi wedi gofalu am draddodiadau Cymru ar hyd y blynyddoedd ac yn dal i wneud hynny.

"Mae'r gwaith sydd wedi'i gyflawni eisoes ar gyfer y flwyddyn nesaf yn dyst i'r brwdfrydedd, i'r gefnogaeth ac i'r awydd sydd yno i wneud popeth posib dros ddiwylliant ac iaith Cymru.

"Felly mi fydd Sir Fôn yn llwyddiant - fedrwn ni sicrhau hynny i chi."

'Lot o syniadau'

Mae'r trefniadau ar gyfer yr ŵyl ar waith eisoes, fel dywedodd Trefnydd y Brifwyl, Elen Elis.

"'Da ni wedi bod yn gweithio ers bron i flwyddyn ac mae lot o syniadau," meddai.

"Mae 'na griw da, brwdfrydig yno, a dwi'n siŵr y bydd yn Steddfod lwyddiannus - does gen i ddim amheuaeth am hynny.

"Safle mewn caeau ydi o, ddim yn bell o'r briffordd. Dim ond mater o gydweithio hefo'r Cyngor Sir er mwyn gwneud yn siŵr bod yr elfen drafnidiaeth yn gweithio.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ger pentref Bodedern yng ngogledd yr ynys

Ychwanegodd yr Athro Derec Llwyd Morgan hefyd bod y pwyllgor gwaith wedi dechrau ar y broses o lunio rhaglenni pebyll fel y Babell Len.

"Da ni eisoes wedi troi'n meddwl at gynllunio rhaglenni'r pebyll - y Babell Len, y Tŷ Gwerin ac yn y blaen - ond ar hyn o bryd, syniadau sydd gennym ni, meddai.

"Rhwng nawr a tua mis Chwefror y byddwn ni'n ffurfio'r rhaglenni hynny.

"Bydd llawer o bethau'n ymwneud a Môn a hanes a diwylliant Môn, ond dydyn ni ddim eisiau bod yn rhy blwyfol chwaith."

Y sefyllfa ariannol

"Gyda golwg ar godi arian, rydyn ni wedi bod yn eithriadol ffodus i gael sefydlu 28 allan o 32 o bwyllgorau," meddai Mr Morgan.

"Erbyn mis Medi, bydd pob un o'r pwyllgorau yn weithredol."

Ychwanegodd: "Mae gennym ni darged ariannol o £325,000, ac fe godwn ni fe, heb os nac oni bai."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Môn ei gynnal yng Nghaergybi ar 25 Mehefin

"Mae 'na deimlad go iawn fod pawb yn fodlon torchi llewys," ychwanegodd Mr ap Iorwerth.

"Mae ynysig yn gallu bod yn air sy'n cael ei ystyried fel rhywbeth negyddol ond mae 'na bositifrwydd hefyd i 'r ynysrwydd yna o ran perchnogaeth.

"Steddfod Ynys Môn i gyd ydi hwn. Does 'na ddim yn amwys am ffin ynys, ac mae pawb sydd ar yr ynys yn edrych ymlaen at gael y Steddfod y flwyddyn nesa'."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn cael ei chynnal ger pentref Bodedern yng ngogledd yr ynys o 4-12 Awst 2017.