Eisteddfod Sir Fynwy: Edrych 'nôl ar yr wythnos a fu
- Cyhoeddwyd
Gydag Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn dirwyn i ben, rhai o'r trefnwyr sy'n edrych 'nôl ar sut wythnos y bu hi yn Y Fenni.
"Da ni wedi cael amser arbennig o dda yma," meddai Prif Weithredwr y Brifwyl, Elfed Roberts.
"Mae wedi bod yn gyfnod adeiladol iawn i ni, ac mae hi wedi bod yn bleser bod yma.
'Dim trafferthion'
Ychwanegodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: "Mae hi wedi bod yn Steddfod grêt. 'Dwi wedi cael lot o bobl yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau ac yn canmol.
"I fod yn onest, does 'na ddim trafferthion mawr wedi bod. Mae hon wedi bod yn haws mewn ffordd na rhai 'dw i wedi eu gwneud yn y gorffennol.
"'Da ni wedi cael lot o bobl leol yn dod, pobl ddi-gymraeg, ystod eang o oedran ac mae pawb yn dweud bod awyrgylch yn arbennig yma.
Ychwanegodd ei bod hi'n hapus iawn gyda nifer y bobl sydd wedi ymweld â'r Maes yn ystod yr wythnos.
Mae cyfnod tair blynedd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Garry Nicholas yn dod i ben eleni, a dywedodd ei fod yn hapus iawn gyda'r pafiliwn newydd.
"Mae pawb sydd wedi bod yn y pafiliwn yn ei ganmol," meddai.
"Yn edrych 'nôl ar yr wythnos hon mae rhywun yn sylweddoli cymaint o bobl ifanc sydd wedi bod yn yr Eisteddfod hefyd.
"Mae Maes B wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dydi Maes B ddim mor agor a hynny [at y Maes], ac eto, maen nhw wedi tyrru yno.
"Mae'n rhaid ymfalchïo hefyd, fel Llys, fel Eisteddfod ac fel Sir, ar y nifer sydd wedi dod yma'r wythnos hon."
Dyma oedd y tro cyntaf i'r Brifwyl ymweld â Sir Fynwy ers 103 o flynyddoedd, ac mae arweinydd y cyngor, Peter Fox yn dweud ei fod yn gobeithio na fydd rhaid disgwyl cymaint i weld y Brifwyl yn dychwelyd.
"Mae hi wedi bod yn wythnos wirioneddol wych," meddai.
"Mae hi wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac yn ddathliad ardderchog o ddiwylliant a'r iaith Gymraeg.
"Rwy'n meddwl bod Sir Fynwy wedi croesawu'r cyfle yma gyda breichiau agored ac mae'r awyrgylch ar y Maes wedi bod yn gyfeillgar iawn.
"Mae 'na ryw fath o gydnabyddiaeth o natur Seisnigaidd Sir Fynwy efallai, ond mae 'na barodrwydd yma i groesawu'r iaith."
Roedd y maes yn agos iawn i ganol tref Y Fenni eleni, ac roedd y dref yn llawn gyda'r nos.
"Mae 'na rhai pobl busnes lleol wedi mynegi siom nad ydi'r eisteddfodwyr wedi mynd i'r dref, ond mae 'na fusnesau wedi elwa," meddai Mr Roberts.
"Y rhai sydd wedi elwa fwyaf dwi'n meddwl ydi'r busnesau hynny sydd wedi gwneud ymdrech.
"Mae na fusnesau yma sydd wedi cyfieithu bwydlenni ac wedi rhoi arwyddion 'Croeso' yn eu ffenestri, a dwi'n meddwl eu bod rhw wedi elwa."
Cyngerdd nos Iau i barhau?
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y gall y gyngerdd gafodd ei chynnal yn y pafiliwn nos Iau fod yn ddigwyddiad blynyddol.
Yn y gyngerdd, bu bandiau Sŵnami, Canelas a'r Ods yn perfformio gyda cherddorfa'r Welsh Pops.
"Roedd y profiad yn un gwerthfawr," meddai Mr Roberts.
"Roedd gweld rhyw 1,500 o bobl yno o bob oedran yn mwynhau eu hunain, yn wefreiddiol. Yn sicr byddwn ni'n licio ei weld yn digwydd eto."
'Adeiladu ar y Steddfod'
"Mae hi wedi bod yn berthynas wych gyda'r Eisteddfod," meddai Mr Fox, "ac rwy'n gobeithio y bydd yn un fydd yn para, ac un fydd un fydd yn gweld yr Eisteddfod yn dychwelyd yn y dyfodol agos.
"Y peth pwysig i ni nawr fel cyngor ydi adeiladu ar effaith y 'steddfod. Gwneud yn siŵr ein bod yn troi hyn i ddathliad parhaol o'r iaith Gymraeg.
"Mae hi hefyd wedi bod yn gyfle i arddangos y sir, ac rydyn ni'n gobeithio bod pawb sydd wedi ymweld â'r ardal wedi mwynhau eu profiad ac y bydden nhw'n awyddus i ddychwelyd yma."
"Gobeithio na fydd hi mor hir cyn i'r Eisteddfod ddychwelyd yma eto."
Mae Mr Roberts yn cytuno mai yr effaith hir dymor ar y sir fydd prawf llwyddiant yr Eisteddfod eleni.
"Yr hyn ddaw ar ôl yr wythnos yma dwi'n meddwl sy'n bwysig," meddai.
"O'r bobl rydw i wedi siarad â nhw, mae 'na lawer iawn yn dweud 'Fues i 'rioed yn Sir Fynwy o'r blaen, ond fe wnâi'n saff 'mod i'n dod 'nôl'.
"Hynny sy'n bwysig. Dwi'n meddwl mai dyna'r buddsoddiad y mae'r Cyngor Sir wedi'i wneud."