Hofrennydd mewn damwain ar gopa mynydd yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae hofrennydd wedi mynd ar dân ar ôl gorfod glanio'n sydyn ar gopa mynydd yn Eryri.
Roedd yr hofrennydd yn rhan o Uned Hyfforddi Chwilio ag Achub yr Awyrlu sydd wedi ei lleoli yng ngwersyll RAF Fali ar Ynys Môn.
Daeth yr hofrennydd i lawr ar gopa'r Aran ger Yr Wyddfa brynhawn Mawrth, ac fe gafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad.
Yn ôl datganiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, hofrennydd hyfforddi Griffin sy'n cael ei defnyddio gan y Weinyddiaeth ddaeth i lawr.
Roedd pump o bobl ar ei bwrdd ar y pryd - pedwar aelod milwrol ac un aelod o'r cyhoedd - gydag un person arall ar y mynydd.
Mae'r unigolion i gyd yn ddiogel meddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe laniodd yr hofrennydd fel mesur diogelwch ar ôl datblygu problemau technegol, cyn iddi fynd ar dân.
Fe gafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei galw am 13:50 i'r digwyddiad ger Llwybr Watkin yn Llanberis.
Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi dweud bod ymchwiliad wedi ei ddechrau i'r rheswm pam y bu'n rhaid i'r hofrennydd lanio ar frys.
Does dim awgrym hyd yma am ba hyd y bydd yr ymchwiliad yn para.