Cymru 'angen gweinidog penodol i ddelio â Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Gerry Holtham
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gerry Holtham yn Athro ym Mhrifysgol Met Caerdydd

Fe ddylai Llywodraeth Cymru benodi gweinidog penodol i ddelio â Brexit, yn ôl academydd blaenllaw.

Dywedodd Gerry Holtham bod y cynlluniau presennol i greu grŵp ymgynghorol "mwy na thebyg ddim am fod yn ddigon".

Ychwanegodd ei fod yn amau a oedd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yr amser a'r adnoddau staffio i gymryd cyfrifoldeb ei hun.

Mae llywodraeth San Steffan eisoes wedi penodi gweinidog sydd yn benodol ar gyfer Brexit, sef David Davis.

Ac yn ôl Mr Holtham, sydd yn gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ac wedi cadeirio adroddiad ar y ffordd y dylai Cymru gael ei chyllido, dyna ddylai ddigwydd ym Mae Caerdydd hefyd.

'Cymorth'

"Bydd Brexit yn dylanwadu ar sawl adran weinidogol o fewn Llywodraeth Cymru," meddai wrth BBC Cymru.

"Fe fydd yn rhaid iddyn nhw weithio gyda'i gilydd a chyfrannu. Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi bod yn grêt yn y gorffennol pan mae'n dod at gydweithio rhyngadrannol.

"Fe allai fod o gymorth cael rhywun sydd yn gyfrifol am dynnu popeth at ei gilydd a chynnal y trafodaethau."

Ychwanegodd Mr Holtham y byddai grŵp ymgynghorol o gymorth pan oedd hi'n dod at drafod materion "cymhleth" pan nad oedd gan lywodraethau Cymru a'r DU ddigon o arbenigedd, ond na fyddai hynny'n ddigon yn ei hun.