Cynnig i adeiladu 750 o dai ac ysgol ger Gorseinon
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer 750 o dai, ysgol gynradd a pharc wedi eu cyflwyno i Gyngor Abertawe.
Mae Persimmon Homes Ltd wedi cyflwyno cais cynllunio ar y safle 50 hectar yng Nghaeau Bryngwyn, ger Gorseinon.
Bydd yr ysgol a'r parc yn cael eu hadeiladu yn ystod ail ran y prosiect, pan fydd y tai wedi eu cwblhau.
Yn ôl y datblygwyr, bydd hyn yn creu "cymuned ble bydd pobl eisiau byw".
Ond mae Mike Hassett, sy'n byw yn agos, yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Mae'n dweud bod problemau traffig yn yr ardal yn ac na fydd y prosiect yn datrys hynny.
Byddai prif ffordd yn arwain o Heol yr Ysbyty at y datblygiad, gyda llwybr o Heol Abertawe hefyd yn cael ei ystyried.
"Mae yna ddiffyg adnoddau lleol yn Garden Village yn barod," meddai Mr Hassett.
"Ble mae'r feddygfa, y fferyllwr a'r deintydd i gefnogi cynnydd o'r fath?"
Mae Cynllun Datblygu Lleol Abertawe wedi rhagweld y bydd angen 17,000 o dai newydd erbyn 2025.
Dywedodd Andy Baker-Edwards o Persimmon Homes: "Byddai'r cynnig yma'n help i ni ddatrys hynny mewn lleoliad addas sy'n agos i ganol Gorseinon.
"Yn ganolog i'r cynlluniau yma mae ysgol gynradd newydd ym Mhontybrenin, a fyddai'n cael ei ddarparu yn gynnar yn ystod y datblygiad a fydd o fudd i'r gymuned."