Snorcelio cors ym Mhowys yng Ngemau Amgen y Byd
- Cyhoeddwyd

Bydd Gemau Amgen y Byd a phencampwriaethau snorcelio cors yn cael eu cynnal ym Mhowys o ddydd Gwener ymlaen.
Mae'r campau'n cynnwys cario eich gwraig, llusgo eich gŵr, ymladd mewn grefi, rhedeg wysg y cefn, swyno pryfed genwair a rasio mewn ffosydd.
Bydd y gemau yn Llanwrtyd yn cael eu cynnal pob penwythnos nes 29 Awst.
Mae snorcelio cors wedi cael ei gynnal yn y dref ers 31 o flynyddoedd, ac yn 2012 cafodd campau eraill eu hychwanegu i greu dewis amgen i'r Gemau Olympaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates bod y gemau yn "rhoi enw da i Gymru" ac yn "rhoi gwên ar wynebau".
Bydd 60 o gampau gwahanol yn rhan o'r gemau, gyda'r snorcelio cors yn cael ei gynnal ar 28 Awst.

Mae llusgo eich gŵr yn un o'r campau fydd yn rhan o'r gemau