Ateb y Galw: Alis Glyn

Alis Glyn
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Alis Glyn o Gaernarfon wnaeth ennill Tlws Sbardun yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 am gyfansoddi ei chân Lleuad Llinyn Arian.
Sefydlwyd Tlws Sbardun yn 2016 er mwyn cydnabod cyfraniad y cerddor a'r cyfansoddwr Alun Sbardun Huws, a chaiff ei gwobrwyo'n flynyddol er mwyn annog cyfansoddwyr y dyfodol.
Alis yw'r ferch gyntaf i ennill Tlws Sbardun a hefyd yr enillydd ieuengaf, a hi sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Dwi'n cofio bod ar wylia' yn Nice yn Ne Ffrainc pan o'n i tua tair oed. Mewn siop deganau nes i afael yng nghoes dyn gan feddwl mai coes Dad oedd hi a 'nath y dyn ddychryn.

Gwenno Huws, gweddw y diweddar Alun 'Sbardun' Huws yn cyflwyno Tlws Sbardun i Alis ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Gwersyll y Vanner yn Llanelltyd, ger Dolgellau oherwydd bod hi'n ddistaw wrth olion yr abaty.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Aros ar fy nhraed tan bump o'r gloch y bore efo fy ffrindiau ysgol yn Albufeira ar ôl gorffen Lefel A.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Penderfynol, brwdfrydig a chreadigol.

Seremoni Tlws Sbardun yn y Tŷ Gwerin
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Pan oeddwn tua tair oed roeddwn yn mynnu mynd i bob sioe Cyw yn ystod wythnos y Steddfod gan dynnu aelod gwahanol o'r teulu efo fi. Roeddwn i'n gwbod pob un cân a'r sgript erbyn diwedd yr wythnos, a'r uchafbwynt oedd cael mynd ar y llwyfan a chael 'slepjan'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Yn y Steddfod sir pan o'n i tua naw oed nes i anghofio 'ngeiriau'n llwyr yn y gystadleuaeth gerdd dant ac ail ganu pennill yn gyfan gwbl.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Wrth wylio ffilm Barbie.

Chwarae yn Tafwyl yn y Tafiliwn efo'r band
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Colli clust-dlysau.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Albwm y band Ynys, Dosbarth Nos.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Joni Mitchell, oherwydd 'mod i wrth fy modd efo steil ei chaneuon hi a'i gallu hi i chwarae'r gitâr.

Alis a'i band yn chwarae yng Nghaffi Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n cael fy mhen-blwydd 'run diwrnod â Meic Stevens.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Chwarae piano a chyfansoddi cân.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Pob Nadolig mae Anna a Gwil drws nesa' a Steff a Dei dros ffordd a fi yn cael tynnu llun pile up ar y soffa. Dyma oedd yr un cynta' ac mae pob llun ers hynny'n gwneud i mi wenu.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fi yn saith oed yn cael allweddella' fel anrheg gan Siôn Corn; roeddwn wedi gwirioni yn lân.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf