'Codwch y baw': Apêl i berchnogion cŵn er mwyn lleihau erthyliadau gwartheg

Buwch ddu gyda'i ffroenau yn agos at y camera. Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae parasit Neospora yn achosi erthyliadau mewn gwartheg ac yn ddrwg i les cyffredinol yr anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd

Baw cŵn sy'n gyfrifol am 20% o'r erthyliadau mewn gwartheg ar draws Prydain, yn ôl arbenigwyr.

Mae Neospora, sef parasit sydd yn gallu trosglwyddo rhwng anifeiliaid, yn cael ei gario mewn baw cŵn ac yn peryglu lles anifeiliaid.

Mae'r clefyd – sy'n arwain at erthyliadau, genedigaethau marw ac anffrwythlondeb mewn gwartheg – yn cael ei achosi gan dda byw yn pori tir sy'n cynnwys wyau o'r paraseit Neospora caninum.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth, ychydig iawn o dystiolaeth sy'n bodoli i ddangos fod y broblem wedi gwella dros y degawd diwethaf.

Mae hynny, medden nhw, yn awgrymu nad yw'r neges am y peryglon yn cael ei throsglwyddo yn llwyddiannus i berchnogion cŵn.

Dyn gyda gwallt gwyn mewn siwmper lwyd yn sefyll mewn cae.
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Brian Thomas un rhan o dair o'i wartheg magu i Neospora

Mae gadael baw cŵn ar lawr hefyd yn gallu bod yn beryglus i iechyd pobl, ac mae'n gallu bod yn broblem fawr mewn ardaloedd lle mae llawer iawn o bobl yn cerdded eu cŵn.

Ar ei fferm yn Sir Benfro, mae gan Brian Thomas lwybr cyhoeddus yn rhedeg drwy'r tir.

"Mae baw ci yn gallu achosi problem mewn gwartheg sy'n eu gyrru nhw i erthylu," meddai.

"Bwrodd dwy drisiad eu lloi a gymeron ni sampl gwaed wrthon nhw ac o'dd e lawr i Neospora.

"Teston ni y fuches i gyd wedyn ac mas o 30 o wartheg magu, roedd 10 yn bositif. Mae'r gost o desto tua £30 y fuwch ac roedd rhaid i ni desto'r herd i gyd.

"Dwi nawr yn testo'r aneirod i gyd cyn bod nhw yn cael eu gwerthu a bu'n rhaid i fi gael gwared ar un rhan o dair o'r 'neirod bryd hynny.

"Mae rhywbeth ni'n gallu gwneud amdano. Mae'n neges sydd angen ei roi allan - codwch eich baw ci."

Yn aml, nid yw cŵn sy'n cario Neospora yn dangos unrhyw arwyddion eu bod wedi eu heintio.

Gall cŵn gael eu heintio â Neospora ar ôl bwyta brych buwch heintiedig, neu drwy fwyta cig amrwd.

"Mae rhai pobl yn mynd i fod yn gydwybodol iawn ac yn codi y baw ond eraill ddim," meddai Rhys Aled Jones, darlithydd mewn gwyddor da byw ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Un peth diddorol ydy bod mwy o barasitiaid yn y baw sy'n cael ei adael ar lawr o gymharu gyda'r baw sydd mewn bagiau neu finiau."

Mae'n awgrymu bod perchnogion sy'n gadael y baw ar lawr hefyd yn llai tebygol o roi gofal i'r cŵn o ran trin unrhyw barasitiaid sydd gyda nhw.

Dim newid yn 'rhwystredig'

Fe ddywedodd Canolfan Milfeddygaeth Cymru, sy'n cynnal archwiliadau post-mortem ar anifeiliaid fferm, mai Neospora sy'n gyfrifol am oddeutu hanner yr erthyliadau maen nhw'n delio â nhw.

Apêl Canolfan Milfeddygaeth Cymru yw i bawb godi eu baw cŵn, mewn caeau yn ogystal ag ar lwybrau cyhoeddus.

Mae'r milfeddyg yn sefyll o flaen y arwydd Canolfan Milfeddygaeth Cymru mewn top blodeuog.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Milfeddygaeth Cymru yn cynnal archwiliadau post mortem ar draws gogledd Cymru

Fe ddywedodd Bev Hopkins sy'n filfeddyg yn y ganolfan bod yr erthyliadau yn "ofnadwy" i'r ffermwyr.

Ychwanegodd: "Yn y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld bod hanner yr erthyliadau oherwydd presenoldeb Neospora.

"Mae'n rhwystredig achos ni'n gwybod bod modd osgoi hyn yn hawdd, a hynny trwy godi baw cŵn.

"Os ydych chi mewn caeau gyda da, codwch y baw, peidiwch â'i hongian ar goeden ac ewch â fo adref."