Lluniau: Y llefydd sy'n dod i'r golwg mewn cyfnodau sych
- Cyhoeddwyd
Mae statws sychder wedi cael ei ddatgan yn ne ddwyrain Cymru yn dilyn y chwe mis sychaf ers bron i 50 mlynedd.
Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan y symudiad i statws sychder mae Gwy, Wysg, y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Trelái, Llwyd a'r Rhondda) a Bro Morgannwg.
Mae gweddill Cymru'n dal i fod mewn statws cyfnod hir o dywydd sych.
Dros y blynyddoedd mae sychder yr haf wedi datgelu rhai o'r cyfrinachau sy'n cael eu cadw dan ddŵr ein cronfeydd a'n hafonydd gan gynnwys olion adeiladau, pentrefi a thirwedd sydd wedi bod dan yr wyneb ers degawdau.
Cymru Fyw sydd wedi bod yn chwilota am rai o'r llefydd sydd wedi dod i'r golwg dros y blynyddoedd.
Ebostiwch eich lluniau chi o haf 2025 at cymrufyw@bbc.co.uk
Llyn Aled Isaf

Ar hyn o bryd yn y gogledd ddwyrain, mae lefel y dŵr yn y cronfeydd yn gostwng yn gyflym ac mae Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bob un fod yn ddarbodus wrth ddefnyddio dŵr.
Mae 'statws tywydd sych estynedig, hir-dymor' yn weithredol yn yr ardal hon.
Mae lefelau dŵr Llyn Aled Isaf ar Fynydd Hiraethog yn Sir Conwy yn gostwng yn ddramatig iawn ar hyn o bryd.
Cronfa Llwyn Onn

Fis Gorffennaf 2022 daeth yr hen bont a dolydd gwastad y dyffryn yma sydd fel arfer o dan y dŵr i'r golwg yng nghronfa Llwyn Onn yn Fforest Fawr, Bannau Brycheiniog fis Gorffennaf.
Mae'r gronfa yma yn dyddio nôl i'r 1920au pan ddechreuodd ddarparu dŵr i Gaerdydd.
Cwm Elan

Hefyd yn 2022 fe amlygodd ostyngiad lefelau dŵr cronfeydd Cwm Elan siâp y dyffryn a foddwyd i gronni dŵr i ateb galw trigolion Birmingham.
Cafodd chwech argae ei adeiladu yn y cwm ar afonydd Elan a Chlaerwen - agorwyd rhan gyntaf y datblygiad yn swyddogol yn 1904.
Llyn Clywedog

Fe ddatgelodd haf sych 2022 ryfeddodau gan gynnwys adfeilion Fferm Aberbiga ger Llanidloes yn Llyn Clywedog. Darllenwch yr hanes wrth ddilyn y ddolen isod.
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022
Tryweryn

Gyda phob haf sych mae siawns i rai o olion pentref Capel Celyn ddod i'r golwg, gan ailgodi'r teimladau dwfn sy'n perthyn i amgylchiadau creu cronfa Tryweryn.
Daw'r lluniau yma o weddillion pentref Capel Celyn o haf 1984.

Ynys Sgomer

Cafodd haf sych 1995 effaith fawr ar lystyfiant Ynys Sgomer sy'n hafan i balod prin.
Er mai pysgod mae palod yn eu bwyta, mae llystyfiant yn holl bwysig er mwyn iddynt nythu a gwarchod eu cywion.
Ynys Enlli

Tynnwyd y llun yma o drigolion Ynys Enlli yn cloddio am ddŵr yn ystod sychder 1962 gan ffotograffydd Y Cymro, Geoff Charles.
Llyn Efyrnwy

Yn Llyn Efyrnwy ym Mhowys yn 2022 daeth tir oedd unwaith yn dir ffermio i'r golwg yn ogystal â hen ffyrdd pentref gwreiddiol Llanwddyn, a gafodd ei symud i lawr y cwm.
Cafodd y llyn ei greu yn 1892 oherwydd bod pobl Lerpwl angen cyflenwad cyson o ddŵr wrth i'r ddinas dyfu'n gyflym ddiwedd yr 19eg ganrif.
Llyncodd y gronfa ddŵr 1200 erw o dir oedd yn eiddo i Iarll Powys ac yn gartref i 37 o dai, 10 o ffermydd, eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel a thair tafarn.
Ebostiwch eich lluniau chi o haf 2025 at cymrufyw@bbc.co.uk
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023