Y chwiorydd mewn coch: Dathlu dwbl yn Nant Conwy

Branwen a Nel Metcalfe ar y chwith, Gwenllïan ac Alaw Pyrs ar y dde
- Cyhoeddwyd
Cafodd carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd y Merched ei gyhoeddi'r wythnos hon, gyda'r gystadleuaeth yn Lloegr yn dechrau ar 22 Awst.
Ymysg y 32 o enwau sydd yn y garfan mae dau bâr o chwiorydd. Mae hyn yn eithaf anghyffredin yn ei hun, ond beth sy'n gwneud hyn yn fwy trawiadol yw bod y bedair yn dod o'r un ardal.
Fe ddechreuodd Nel a Branwen Metcalfe, a'r blaenwyr Gwenllïan ac Alaw Pyrs eu gyrfaoedd rygbi gyda Chlwb Nant Conwy, sy'n chwarae yn Nhrefriw ar gyrion Llanrwst.
Capten tîm Cymru dan-20, Branwen Metcalfe yw'r unig chwaraewr sydd heb ennill cap llawn i gael ei chynnwys yn y garfan.

Daw Gwenllïan, sydd i'w gweld yn y llun uchod, a'i chwaer Alaw, o Ysbyty Ifan
"Dwi ddim yn gwybod be' i ddweud os dwi'n onest, mae popeth sy' 'di digwydd dros y flwyddyn dwetha' di bod yn wallgo", medda Branwen.
"Dwi heb ymarfer rhyw lawer efo'r garfan eto, ond ma'n grêt dod mewn i'r awyrgylch yma, a dwi'n dysgu lot yma.
"Ma' pawb mor glên, ac ma'n braf bod yn un o'r rhai ifanc yn y garfan, gyda chymaint o chwaraewyr profiadol o fy nghwmpas i."
Dyweda Branwen ei bod yn edmygu llawer o'r merched sydd yn y garfan, gan enwi Alex Callender a Kate Williams fel esiamplau i'w dilyn: "... y ffordd maen nhw'n chwarae, yn siarad - dwi jest eisiau bod fel nhw.
"Dwi'n gobeithio y bydda i'n gallu creu dipyn o argraff ar ryw bwynt, a dwi'n trio dysgu gymaint â sy'n bosib ar hyn o bryd."

O'r chwith i'r dde; mae Gwenllïan Pyrs yn 27 mlwydd oed, a'i chwaer, Alaw, yn 19, mae Nel Metcalfe yn 20 mlwydd oed, a'i chwaer, Branwen, yn 18
Mae Nel wrth ei bod o weld ei chwaer fach yn ymuno â'r garfan.
"'Dan ni fel teulu wrth ein boddau!
"Mae 'na bobl di gofyn i fi sut dwi'n teimlo, a'r gwir ydi 'swn i'n methu bod yn fwy balch. Dwi 'di gweld dros fy hun pa mor galed ma' hi'n gweithio, ac mae hi'n haeddu cael ei galw i'r garfan.
"Dwi yn trio cymryd gofal ohoni yn y garfan, a checio bod hi'n iawn. Ond ma' hi'n gallu edrych ar ôl ei hun, a ma' pawb o amgylch y garfan yn hynod o gyfeillgar."

Nel yn cael gafael ar goes un o chwaraewyr Awstralia, Desiree Miller, mewn gêm yn Sydney, 1 Awst, 2025
Mae Cymru wedi bod â chwiorydd yn chwarae yn yr un tîm yn y gorffennol, gyda'r efeilliaid Claire a Louise Horgan yn wynebu Ffrainc yn 2008.
Ond mae cael dau bâr o chwiorydd o'r un clwb yn anghyffredin iawn - dipyn o gamp i ardal Dyffryn Conwy.
"'Dan ni'n cael gymaint o gefnogaeth yn be' bynnag 'dan ni'n gwneud," meddai Nel.
"Ma'n eitha' nodweddiadol o Nant, achos ma'n fwy na jest clwb, ma'n gymuned ble ma' pawb yn 'nabod ei gilydd."
'Rhan mawr o fywyd y teulu'
Mae Branwen yn cyd-fynd yn llwyr efo hyn: "Pan oddan ni'n fach oddan ni yno o hyd.
"Ma'r clwb 'di bod yn rhan enfawr o'n gyrfa ni'n chwarae, ond hefyd yn rhan mawr o fywyd y teulu gyfan, a ma' mor braf bo' ni'n gallu gwneud hyn efo'n gilydd."
Bydd Cymru yn chwarae yng ngrŵp B yng Nghwpan y Byd eleni, gan wynebu'r Alban, Canada a Fiji, gyda'r gêm gyntaf yn erbyn Yr Alban yn Salford ar brynhawn Sadwrn, 23 Awst.
Fe fydd y chwiorydd Metcalfe a Pyrs yn cael gwybod os fyddent yn chwarae yn y gêm agoriadol dydd Iau nesaf, pan fydd y prif hyfforddwr, Sean Lynn yn enwi'r tîm.

Mae Alaw yn chwarae yn yr ail-reng a Gwenllïan yn chwarae yn safle'r prop
Cadeirydd Clwb Rygbi Nant Conwy yw Marc Jones, ac mae wrth ei fodd gyda llwyddiant y merched lleol.
"Llongyfarchiadau i'r genod - mae eu llwyddiant nhw yn dod wedi'r gwaith caled a'r ymroddiad ganddyn nhw.
"Mae llwyddiant y genod hefyd yn adlewyrchiad o'r hyfforddiant gafon nhw yn y clwb, y staff, ac holl ethos y clwb.
"O fod yn rhan o gymuned Clwb Rygbi Nant Conwy, o'dd o ond yn fater o amser nes i gynrychiolaeth mawr fel 'ma ddod o'r clwb. Dwi'n siŵr y bydd llwyddiant y genod yma'n gweithio fel rhyw sbardun i'r chwaraewyr eraill yn y clwb wrth symud ymlaen."
'Eithriadol o falch'
Tudur Roberts sy'n arwain adran y merched yn y clwb, Ceirw Nant. Dywed Tudur ei fod o'n "eithriadol o falch" o lwyddiannau'r merched wrth gael eu dewis ar gyfer garfan Cymru.
"Mae'n sicr yn ysbrydoliaeth i'r chwaraewyr iau, ac yn dangos bod y llwybr yno i gyrraedd y brig drwy weithio'n galed ac ymroddiad.
"Dan ni'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ac mi fydden ni'n eu cefnogi nhw bob cam o'r ffordd.
"Mae safon gêm y genod yng ngogledd Cymru wedi gwella'n aruthrol, gyda gemau o safon yn cael eu cynnal bob wythnos.
"Dim ond mater o amser ydi o nes y bydd mwy a mwy o genod o'r gogledd yn gwisgo crys coch Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf