AI yn ail-greu wynebau carcharorion o Fôn gafodd eu hanfon i Awstralia

Cafodd Anne Williams ei hanfon i Tasmania wedi iddi gael dedfryd o 10 mlynedd am ddwynFfynhonnell y llun, Unshackled/Roar Films
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Anne Williams ei hanfon i Tasmania wedi iddi gael dedfryd o 10 mlynedd am ddwyn

  • Cyhoeddwyd

Mae AI, deallusrwydd artiffisial, wedi helpu ymchwilwyr i ail-greu wynebau posib carcharorion o Gymru gafodd eu danfon i Awstralia yn y 19fed ganrif.

Bellach mae hanes bywyd 60 o droseddwyr - a gafodd eu cludo o Sir Fôn i Ynys Tasmania am droseddau mor fach â dwyn hances boced - yn hysbys.

I greu'r darluniau, mae AI wedi defnyddio cofnodion y carcharorion, brasluniau o'r cyfnod a lluniau diweddar o ddisgynyddion.

"Dwi wedi fy syfrdanu ar ôl darganfod o le ma'n nheulu yn dod," dywedodd Caterina Giannetti - un o ddisgynyddion Anne Williams a gafodd ei hanfon o Gymru yn 1842.

Cafodd Anne Williams a gafodd ei chludo yn 1842 o ogledd Cymru i Tasmania
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Anne Williams ei chludo yn 1842 o ogledd Cymru i Tasmania

Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod dros 162,000 o garcharorion wedi cael eu hanfon i Awstralia rhwng yr 17eg a'r 19eg ganrif.

Cafodd y rhan fwyaf eu cludo oherwydd eu bod wedi dwyn - sawl un fwy nag unwaith.

Roedd rhai wedi torri'r gyfraith am resymau mor fach â sefyll ar lysiau yng ngardd bonheddwyr lleol yr ardal.

Yn yr 1800au roedd nifer o garcharorion yng ngharchar Biwmares - roedd 31 cell yno gyda'r dynion a'r merched yn cael eu cadw ar wahân.

Cafodd John Hughes ei garcharu am ddwyn hancesFfynhonnell y llun, Unshackled/Roar Films
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Hughes, a gredir o fod yn edrych fel hyn, ei garcharu am ddwyn hances

Bu Roger Vincent yn gwirfoddoli fel tywysydd yng ngharchar Biwmares am sawl blwyddyn wedi iddo ymddeol o'i waith fel peilot yr Awyrlu.

Pan ar wyliau yn Awstralia sylwodd ar gymaint o droseddwyr oedd wedi cael eu cludo yno.

"Ro'n ni wedi synnu," meddai, "ac felly dechreuais ymchwilio i'r sefyllfa yn Sir Fôn, a darganfuais bod o leiaf 60 o droseddwyr yr ynys wedi'u cludo o ochr arall y byd mewn cyfnod byr o amser."

Wedi gwaith ymchwil yn Archifdy Llangefni, fe ddaeth i'r amlwg bod nifer o'r 60 wedi cael dedfryd llym iawn am droseddau nad oedd mor ddifrifol â throseddau heddiw.

Yn eu plith:

  • John Hughes, dwyn hances boced, dedfryd o 10 mlynedd – danfon i Awstralia;

  • Hugh Hughes, dwyn pum dafad, dedfryd oes – danfon i Awstralia;

  • William Williams, dwyn 29 swllt oddi ar fachgen, dedfryd saith mlynedd – danfon i Awstralia.

'Balchder' bellach o fod yn perthyn

Roedd tri rheswm am allgludo (deport) – roedd carchardai Prydain ac Iwerddon yn llawn, roedd hi'n ddrud i gadw carcharorion ynddyn nhw ac roedd hefyd angen pobl yn Awstralia i helpu gyda'r gwaith llafur yno.

Y gred yw fod 20% o bobl Awstralia yn ddisgynyddion o garcharorion ac yn nhalaith Tasmania mae'r ffigwr yn nes at 70%.

Yn ôl yr Athro Hamish Maxwell-Stewart, sy'n arbenigo ar hanes troseddwyr Awstralia ym Mhrifysgol New England yn Hobart, tan yn ddiweddar doedd pobl Awstralia ddim eisiau cyfaddef eu bod yn perthyn i droseddwyr.

"Ond nawr yn enwedig yn Tasmania, mae yna fwy o falchder bod carcharorion yn rhan o hanes teuluol," meddai.

Mae ei waith wedi arwain at greu'r gofeb 'Unshackled' yn Hobart, a oedd yn ddiweddar yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Tripadvisor yn Awstralia.

Mae'r gofeb yn rhoi cyfle i bobl ganfod a ydyn nhw'n perthyn i droseddwyr.

Mae Caterina Giannetti yn byw yn Sydney ac yn un o ddisgynyddion Anne Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caterina Giannetti yn byw yn Sydney ac yn un o ddisgynyddion Anne Williams

Oherwydd y pellter o Gymru fe wnaeth y rhan fwyaf a gafodd eu cludo yn y 19g aros i ddechrau bywyd newydd.

Mae Caterina Giannetti yn byw yn Sydney ac yn un o ddisgynyddion Anne Williams a gafodd ei chludo yn 1842 o ogledd Cymru i Tasmania - roedd hi'n 19 oed ar y pryd.

Cafodd ddedfryd o 10 mlynedd am ddwyn.

Trwy ddefnyddio llun o Caterina yn 20 mlwydd oed, cofnodion Anne pan gafodd hi ei chludo ac AI, mae prosiect yr Athro Maxwell-Stewart wedi ceisio ail-greu yr hyn allai wyneb Ann fod 200 mlynedd yn ôl.

"Mae mor ddiddorol canfod o le 'dach chi'n dod a ffeindio allan os oes yna unrhyw nodweddion teuluol er enghraifft," meddai.

"Ac wrth gwrs mae bellach yn rhywbeth i fod yn falch ohono - bod troseddwr yn rhan o'n gwreiddiau teuluol!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig