Skye Neville: Yr ymgyrchydd ifanc o Wynedd sy'n ceisio brwydro'r plastig

Casglu caeadau plastig yn jyngl Costa Rica ym mis Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd
Derbyn comics a chylchgronau wedi eu lapio mewn plastig ac â theganau plastig arnyn nhw pan oedd hi'n 10 oed a daniodd y tân ym mol Skye Neville i geisio ymgyrchu dros yr amgylchedd.
Dyna sydd wedi arwain at brofiadau bythgofiadwy; mae hi wedi treulio amser gyda phrosiect cadwraeth crwbanod y môr yn Costa Rica, mae hi'n rhan o ffilm ddogfen newydd gydag ymgyrchwyr amgylcheddol ifanc eraill, ac mae pobl o bob cwr o'r byd yn gwybod am ei stori yn ceisio brwydro'n erbyn llygredd plastig... a dydi hi ddim cweit yn 15 oed eto.
Dewch i gwrdd ag un sydd wedi ei henwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC, yr actifydd hinsawdd ifanc o Wynedd, Skye Neville:
'Alla i wneud gwahaniaeth'
"Mae'n siŵr ei fod o'i gyd wedi dechrau achos ein bod ni'n byw yn agos iawn at bentref Fairbourne, sydd wedi cael sylw - yn annheg o bosib - achos y tebygolrwydd y bydd y pentref yn cael ei foddi gan ei fod wedi cael ei adeiladu ar floodplain.
"Felly dwi wastad wedi bod yn ymwybodol ohono fo, a 'naeth hynny danio fy niddordeb i.
"A dwi ddim yn siŵr pam mai plastig ar gomics a chylchgronau oedd o, ond dyna oedd y peth 'naeth i mi feddwl, 'alla i wneud gwahaniaeth'.

Annerch tyrfa mewn digwyddiad Surfers Against Sewage yn Abertawe ym mis Ebrill 2023
"Dwi'n cofio derbyn un cylchgrawn efo 16 darn o blastig defnydd un-tro arno. 'Nes i sgwennu llythyr at y cyhoeddwyr, o'n i 'di gwylltio gymaint. Doedd yr ateb cyntaf ddim yn grêt – 'da ni yn poeni... bla bla...'
"A dyna arweiniodd at y ddeiseb a 'naethon ni e-bostio gymaint o bobl gwahanol oedden ni'n gallu meddwl amdanyn nhw.
"Clywodd uwch-reolwr yn Waitrose eitem byr amdana i ar Radio 4, a 'naeth hynny iddo fo fynd i'w Waitrose lleol ac edrych ar y plastig yna, ac o fewn 10 diwrnod, 'naethon nhw gyhoeddi eu bod am stopio gwerthu cylchgronau efo plastig arnyn nhw. Roedd hynny'n wythnos wyllt o siarad efo holl gyfryngau'r DU a rhai tramor.
"A dyna daniodd y siwrne dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Herio'r cwmnïoedd mawr
"Y llynedd, o'n i'n rhan o ffilm ddogfen sydd yn cael ei rhyddhau'n hwyrach yn yr hydref – The Future Council.
"Roedd 'na wyth person ifanc yn y ffilm, ac roedd gan bawb ei arbenigedd ei hun, a ddaethon ni at ein gilydd i ffurfio tîm. Fy rôl i oedd fel ymgyrchydd ac un o'r bobl blastig.
"'Naeth y peth dyfu; ddechreuodd o efo ffilm lle roedden ni am deithio o amgylch Ewrop... ac erbyn y diwedd, roedden ni wedi cyrraedd pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd!

Cadair Cyfarwyddwr Cyngor Diogelwch y Cenhedlaeth Unedig yn Efrog Newydd, pan roedd Skye yn gweithio ar y ffilm ddogfen ym mis Medi 2024
"Ges i siarad efo un o fosus cwmni melysion, sy'n llygrwr plastig mawr, ar gamera. Ti'n gwybod fod rhaid i ti ddweud rhywbeth, achos byddai'r euogrwydd o beidio dweud rhywbeth yn ofnadwy a ti'n gwybod nad wyt ti am gael y cyfle yma eto.
"O'n i'n bryderus iawn ac yn nerfus, ac er dy fod ti'n gwybod dy fod ti'n gywir, mae o dal yn deimlad rhyfedd, i ddweud rhywbeth fel plentyn wrth rywun hŷn na fi. Ond o'dd o mor empowering.
"Er fod ei ymateb ddim yn wych, ti'n gwybod ei fod am gofio, ac mae o bendant yn gwneud yr holl nerfusrwydd ymlaen llaw werth o.
"Mae'r ffilm yn bwerus ac yn ysbrydoledig tu hwnt. Mae o wedi cael ei ddangos ychydig o weithiau yn Awstralia, a 'dan ni'n barod yn clywed am ysgolion yn creu eu Future Councils eu hunain. Roedd un ysgol wedi gofyn i'w hathrawon i stopio'r bws ar y ffordd nôl er mwyn glanhau'r traeth.
"Bydd o'n fwy na jest ffilm.

Skye yn cwblhau 50 diwrnod o gasglu sbwriel ar ei thraeth lleol, er mwyn ceisio gwneud yn iawn am deithio i Awstralia - ym mis Awst 2024
"'Naeth yr holl ffilmio arwain at y première ym Melbourne, ac oedd hynny yn lot o hedfan a do'n i ddim yn hapus iawn efo hynny. Felly 'nes i lanhau'r traeth am 50 diwrnod yn olynol i drio g'neud yn iawn am yr allyriadau carbon; 'nes i gasglu dros 300kg o blastig o'n traeth lleol ni sydd tua dwy filltir o hyd.
"Dwi'n gobeithio fydd cyrhaeddiad y ffilm a beth fydd o'n ei ysbrydoli yn helpu i 'neud yn iawn hefyd, ac yna bydd newidiadau yn cael eu gwneud.
Ysbrydoli newid
"Mae hi wedi bod y bum mlynedd mwyaf gwallgo' o brofiadau; yn chwarae rhan fach yn ysbrydoli pobl ifanc eraill, a gweld beth maen nhw'n ei wneud – mae'n arbennig iawn.
"Ac ar ddiwedd y dydd, ddechreuodd o efo plentyn 10 oed, oedd wedi gwylltio, yn ysgrifennu llythyr, a dwi wastad yn cofio'n ôl i hynny.
"Beth os faswn i ddim wedi sgwennu'r llythyr? Fyddai dim o hyn wedi digwydd. A'r cwbl oedd o oedd llythyr yn fy llawysgrifen, mae'n siŵr yn llawn camsillafu!
"Mae plant yn gallu gweld a meddwl 'alla i wneud hynny, alla i achosi newid, dim ots pa mor fawr ydi'r newid yna, alla i wneud rhywbeth i helpu'. Mae'n beth pwerus.
"Mae wir yn reit syml i wneud newid cadarnhaol, a dyna beth sy'n dod o'r ffilm – galli di wneud gwahaniaeth, ac mae dy lais yn bwysig.

Enillodd Skye Neville wobr yn seremoni Gwobrau Dewi Sant ym mis Ebrill 2023 - yma gyda'r cyn Brif Weinidog, Mark Drakeford AS
"Doeddet ti ddim yn arfer gweld llawer o bobl ifanc yn y cyfryngau, ond dwi 'di gweld mwy o bobl yn gwneud stwff rŵan, ac mae 'na don o bobl ifanc a lleisiau ifanc yn dweud 'mae hyn yn anghywir, 'dan ni angen newid'.
"Ac er fod rhai pobl yn dweud 'mae'r plant am ei ddatrys o i gyd' - na, dydyn ni ddim, achos mae hynny'n bwysau aruthrol i'w roi ar blant. Ond gallwn ni helpu i achosi newid.
"Y busnesau, yr oedolion a'r cenedlaethau hŷn sydd angen helpu. Does gennyn ni ddim y pŵer i newid deunydd pecynnau cynnyrch cwmnïoedd mawr – yn y pendraw, nhw sydd yn gwneud y penderfyniadau.
"Rŵan mae'r ymgyrch yn nwylo'r diwydiant. Mae cwmnïoedd yn dweud ein bod ni bendant wedi ei gwneud hi'n heriol iddyn nhw, ac mae'n rhaid iddyn nhw weithio'n gyflymach. Ond mae newid yn gallu cymryd amser hir.
"Welwn ni lle eith y ffilm, achos fydd hynny'n gyffrous iawn, a gobeithio gweld pa newid fydd yn dod o hynny.
"Dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Adran y stori