'Sanffaganaidd' ymhlith cannoedd o eiriau newydd i'r geiriadur

SanffaganaiddFfynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru/Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ystyr 'Sanffaganaidd' yw "yn perthyn i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yn perthyn i'r gorffennol neu hen ffasiwn"

  • Cyhoeddwyd

Mae 'Sanffaganaidd', 'prawfddarllen', 'cofbin' ac 'e-drosedd' ymhlith y cannoedd o eiriau newydd sydd wedi ymddangos yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Yn fras, er mwyn ennill lle yn y Geiriadur mae'n rhaid bod "bywyd i air".

Fel arfer mae hynny yn golygu bod tair enghraifft ysgrifenedig ohono yn bodoli, meddai Catrin Huws, un o'r golygyddion cynorthwyol.

Erbyn hyn, gyda'r Geiriadur ei hun ar-lein, dolen allanol ers dros ddegawd, mae mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o ddeunyddiau sydd ar y we ond "mae'n rhaid iddynt fod yn safonol".

'Sanffaganaidd' ddim yn hen iawn!

Roedd y ferf 'Sanffaganeiddio' wedi'i chynnwys yn y Geiriadur ers 1999 ond doedd yna ddim enghreifftiau o sut roedd y gair yn cael ei ddefnyddio.

Bellach mae enghreifftiau o hynny ac mae'r ansoddair 'Sanffaganaidd' wedi ei gynnwys gan mai dyna tarddiad y ferf.

Ystyr 'Sanffaganaidd' yw "yn perthyn i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yn perthyn i'r gorffennol neu hen ffasiwn".

Cafodd yr ansoddair ei ddefnyddio gyntaf yn 1957 yng Nghyfansoddiadau yr Eisteddfod Genedlaethol.

geiriau newydd

Mae'r geiriau 'prawfddarllen' a 'camsillafiad' yn rhywbeth y mae geiriadurwyr yn dod ar eu traws yn gyson ond newydd gael eu cynnwys yn y Geiriadur y maen nhw.

Yn y llyfr Termau Cyfrifiadureg yn 1986 mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o 'prawfddarllen' ond fe ymddangosodd y gair 'camsillafiad' gyntaf yn 1911 yn Y Beirniad a oedd yn cael ei olygu gan yr ysgolhaig John Morris-Jones.

Geiriau eraill sydd wedi'u hychwanegu yn ddiweddar yw geiriau sydd â chysylltiad cyfrifiadurol - yn eu plith 'seiberdrosedd', 'e-drosedd', a 'cofbin'.

Yn Y Cymro yn 2011 y mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o 'seibrdrosedd', ar-lein yn 2004 yr oedd yr enghraifft gyntaf o 'e-drosedd' ac fe ymddangosodd y gair 'cofbin' gyntaf yn Clonc - papur bro ardal Llanbedr Pont Steffan.

Mae tîm Geiriadur Prifysgol Cymru yn pwysleisio ei bod hi'n bosib bod gair yn bodoli ynghynt na sy'n cael ei nodi ond bod eu tystiolaeth nhw yn seiliedig ar wybodaeth o lyfrau, cynnwys miloedd o slipiau sydd wedi cael eu casglu ar hyd y blynyddoedd a bellach deunyddiau dibynadwy ar-lein.

geiriau
Disgrifiad o’r llun,

Beth wnewch chi o'r cynigion yma am eiriau newydd?

Ar gyfer cyfarfod Cyfeillion y Geiriadur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni roedd yna wahoddiad i bobl feddwl am eiriau newydd - geiriau roedd pobl yn teimlo y dylai fod gair amdanyn nhw.

Yng nghwmni'r Archdderwydd Mererid Hopwood, sy'n llywydd y gymdeithas, cafodd nifer o eiriau eu cynnig.

Ymhlith y geiriau roedd 'gwingur'/'cwrwgur' am 'hangover', 'hebost' sef e-bost sydd wedi'i anfon heb gynnwys yr atodiad ac 'afaldalu' am ApplePay.

Ond go brin y byddan nhw yn y Geiriadur am rai blynyddoedd am fod yn rhaid cael o leiaf tair enghraifft ddibynadwy ohonyn nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig