Beth sy'n arbennig am greigiau Ynys Môn?

Y daearegwr Dei HuwsFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Dei Huws

  • Cyhoeddwyd

Mae Ynys Môn yn un o'r unig ddau Geoparc Byd-eang UNESCO yng Nghymru. Dim ond 229 o leoliadau sydd wedi derbyn y statws yma yn y byd.

Yma, mae'r daearegwr Dei Huws ac un o gyfranwyr rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru yn ein tywys ar daith ddaearegol o amgylch Ynys Môn, gan amlygu pam ei bod yn haeddu'r fath statws.

Ymweliad gan ddilyswyr statws Geoparc Byd-eang UNESCO

Yn gynharach yr haf yma, roedd dau ddaearegwr, y naill o Romania, a'r llall o Slofenia, yn crwydro Ynys Môn yn ymweld â'r trysorau creigiog sydd i'w cael yno.

Dim byd anghyffredin yn hynny... mae'r Ynys wedi denu daearegwyr o ledled y byd ers dros i ddwy ganrif, ers geni'r pwnc.

Ond doedd y ddau ddim yno i ddehongli mwynau neu i fapio'r haenau, oherwydd dilyswyr oedd y rhain, ac yma i weld os caiff y 'fam ynys' cadw ei ddynodiaeth fel Geoparc Byd-eang UNESCO, GeoMôn – ac felly yn un o 229 o leoliadau tebyg.

Mae'r dynodiaeth yn cydnabod llawer mwy na dim ond y creigiau nodweddiadol sydd yno.

Mae i bob Geoparc Byd-eang swyddogaethau mwy eang, yn ymwneud â hyrwyddo cadwraeth, addysg a datblygiad cynaliadwy – ac i wneud hynny drwy warchod tirweddau daearegol unigryw ac ysbrydoli cymunedau i werthfawrogi ac elwa o'u treftadaeth naturiol.

Ond, bois bach, mae hanes siwrne ddaearegol hirfaith rhai o'r creigiau yn wir anhygoel.

Calchfaen Llanbadrig yw'r fwyaf hynafol yng Nghymru

Gawn ni ddechrau efo'r calchfaen? I'r rhai sy'n dod i Fôn o gyfeiriad Llandudno, hon yw'r graig gyntaf iddynt weld – goleudy Penmon yn denu'r sylw ac yn rhybudd i'r dŵr bàs sy'n amgylchynu Ynys Seiriol.

Ond nid y calchfaen yma sydd o fewn golwg yma. Craig Garbonifferaidd yw calchfaen Siriol, fel sy'n wir mewn llawer ardal arall ar hyd a lled Cymru.

Ond calchfaen Cyn-gambriaidd Llanbadrig sy'n fwy syfrdanol ei stori. Dim ond yn y degawd diwethaf ydan ni wedi deall y rhain sydd tua 800 i 860 miliwn o flynyddoedd oed – ac felly'r creigiau mwyaf hynafol yng Nghymru (a Lloegr).

Maent i'w gweld fel talpiau o'r graig yn mesur 50 – 150 m o hyd, nepell o eglwys hynafol Llanbadrig, wedi ei hamgylchynu yng nghanol creigiau lleidiog, sydd eu hunain tua 300 miliwn o flynyddoedd yn fwy ifanc.

Ac yn yr un modd, roedd lympiau mawr o gwartsit hefyd yng nghanol y graig leidiog. Roedd y cyfosodiad od yn creu penbleth i ddaearegwyr cynnar.

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, fe fathwyd y term, mélange, i ddisgrifio'r cymysgedd gan Edward Greenly. A hwn yw'r gair sy'n gyfarwydd i bob myfyriwr ledled y byd hyd heddiw pan fyddant eisiau disgrifio'r math yma o lanast daearegol!

Calchfaen Cyn-gambriaidd, ger Bae CemaesFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Calchfaen Cyn-gambriaidd, ger Bae Cemaes

Y mélange, ger Bae Cemaes – cymysgedd o greigiau gwahanol ac iddynt amrediad o oedrannau, i gyd yn creu llanast bendramwnwgl. Yma, gwelir cwartsit (wen) yng nghanol craig leidiogFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Y mélange, ger Bae Cemaes – cymysgedd o greigiau gwahanol ac iddynt amrediad o oedrannau, i gyd yn creu llanast bendramwnwgl. Yma, gwelir cwartsit (wen) yng nghanol craig leidiog

Llinellau ar galchfaen Bae Cemaes

Erbyn hyn, mae esboniadau o sut mae mélange yn ffurfio. Yn yr achos yma, roedd y calchfaen yn hen graig pan lithrodd i lawr ochr serth ffos gefnforol – a chael ei hun fel ymwelydd dieisiau, yn gorwedd yn y mwd ar waelodion y ffos gefnforol. Yr un fu ffawd y cwartsit. Ac yna, dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd bu i rymoedd anferthol wthio bob dim i'r wyneb.

Ond mae mwy i'r stori oherwydd, yn wahanol i'r calchfaen mwy cyffredin o'r oes Garbonifferaidd, mae'r calchfaen Cyn-gambriaidd o gyfnod oedd cyn i unrhyw gragen môr neu gwrel fod wedi esblygu.

Ond er hynny, mae ambell i batrwm od o linellau i'w gweld – rhai yn wastad a chyfochrog fel haenau gwaddodol cyffredin; ond mae rhai yn ffurfio siapiau mwy oddfog.

Stromatolitau yw'r rhain, sef bacteria a oedd yn byw mewn dŵr bas ac yn defnyddio ffotosynthesis i gipio egni'r haul.

Maent dal i'w cael hyd heddiw e.e. yn Gutharraguda (Shark Bay) yn Awstralia. Stromatlitau oedd y cyntaf i greu ocsigen yn atmosffer cynnar y blaned. Ac maent i'w gweld wedi ei ffosileiddio nepell o Gemaes!

Stromatolitau yn y calchfaen Cyn-gambriaidd, ger Llanbadrig. Bu iddyn nhw i dyfu fel cyfres o fatiau bacteria ac mae rhain i’w gweld yn anuniongyrchol fel llinellau cyfochrog yn hanner uchaf y ddelwedd ymaFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Stromatolitau yn y calchfaen Cyn-gambriaidd, ger Llanbadrig. Bu iddyn nhw dyfu fel cyfres o fatiau bacteria ac mae rhain i'w gweld yn anuniongyrchol fel llinellau cyfochrog yn hanner uchaf y llun yma

Lafa ar Ynys Llanddwyn

Roedd y ffos gefnforol a soniwyd amdani wrth begwn y de tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Ac os oedd ffos, mae'n rhaid bod cefnfor! Fel sy'n wir heddiw, crëwyd y cefnfor o fagma yn arllwys i wely'r môr ar hyd cefnen hir.

Weithiau, fel amlygwyd yn achos Gwlad yr Ia, mae'r arllwys yn egnïol a maith, nes bod ynysoedd yn cael ei ffurfio.

Ond gan fwyaf, ryw ddiferu i'r wyneb mae'r magma. Ac os ewch chi i Wddw Llanddwyn, mi welwch chi'r creigiau yma'n glir. Nid lafa cyffredin mohono.

Cafodd ei wthio drwy wely'r môr ac i mewn i'r dŵr oer mewn modd sydd ddim yn annhebyg i sut yr ydych yn chwistrellu past ar eich brwsh dannedd.

Mae pob 'sgwyrtyn' yn creu clustog o lafa poeth, sy'n claearu'n sydyn yn yr oerfel gan greu cramen allanol yn gyntaf, ac yna'n troi'n solet i'w chanol. Ac mae'r rhain i'w gweld fel petasai nhw wedi ffurfio ddoe, efo'r enghreifftiau gorau i'w cael ar Wddw Llanddwyn a Phorth Halen.

Lafa clustog, Gwddw LlanddwynFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Lafa clustog, Gwddw Llanddwyn

Clogwyni serth Ynys Lawd

Yn yr un modd, mae creigiau Ynys Lawd yn ddaearegol enwog am blygiant yr haenau, sydd i'w gweld ar ei gorau wrth edrych yn ôl ar y clogwyni o'r goleudy.

Wrth gwrs, ar unrhyw benwythnos yn yr haf mae, i bob daearegwr yno, o leiaf tri dwsin o ymwelwyr yno i ddotio ar weld y palod, y brain coesgoch, llursod, a llu o rywogaethau eraill o adar môr.

Ond... dydi'r adar ond yna oherwydd bod y clogwyni'n serth ac yn frith o silffoedd cyfleus ar gyfer nythu.

A'r rheswm am y clogwyni yw oherwydd mai ffawtiau daearegol ydynt – wedi eu creu o holltiadau mawr yn y graig. A'r rheswm am y silffoedd yw bod haenau tenau o garreg leidiog feddal wedi erydu rhwng haenau o dywodfaen caletach. Mae bob silff nythu â 'llawr' a 'tho' o dywodfaen, a wal gefn o garreg leidiog.

Ynys Lawd – ei daeareg yn denu’r adarFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Lawd – ei daeareg yn denu'r adar

Mae grymoedd daearegol yr oesoedd wedi plygu’r haenau i greu effaith trawiadolFfynhonnell y llun, Dei Huws
Disgrifiad o’r llun,

Mae grymoedd daearegol yr oesoedd wedi plygu'r haenau i greu effaith trawiadol

Fel adar Ynys Lawd, ymwelwyr yr haf oedd y ddau ddilysydd UNESCO; ond ar ôl ond ychydig ddyddiau o ymhyfrydu yn y ddaeareg, a chwrdd â busnesau, mentrau, atyniadau a gwleidyddion lleol, roedd yn amlwg fod yr Ynys(oedd!) wedi gadael argraff ffafriol ar ein dau ffrind.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig